Mae Cymru wedi colli £1.1bn mewn cymhariaeth â nawdd yr UE a gwariant y pen llywodraeth leol wedi gostwng 9.4% dros ddegawd – Plaid Cymru.
Mae llefarydd Plaid Cymru y Trysorlys, Ben Lake AS wedi beirniadu methodoleg Llywdraeth y DU ar ddyranu nawdd drwy gynllun Y Gronfa Ffyniant Bro, gan ei ddisgrifio yn “fympwyol ac ad-hoc”.
Mae Ceredigion, etholaeth Mr Lake, ymysg 11 awdurdod lleol Cymreig sydd heb dderbyn nawdd fel rhan o gyhoeddiad heddiw, er bod ardaloedd cyfoethocach fel Richmond yn Swydd Efrog, etholaeth Rishi Sunak, wedi derbyn nawdd.
Dywed yr AS Plaid Cymru am fod Cymru wedi colli £1.1bn o nawdd y byddai wedi derbyn o gynlluniau blaenorol yr UE, a bod gwariant cyhoeddus ar wasanaethau awdurdodau lleol wedi gostwng o 9.4% dros y ddegawd, bod “y syniad y dylem fod yn ddiolchgar am y fraint o gael cystadlu am bot bach o arian yn sarhaus.”
Mae Plaid Cymru yn amau y dylai’r nawdd gael ei rannu yn ôl yr angen perthnasol er mwyn cyflwyno “cynllun economaidd hirdymor cydlynol sydd ei angen er mwyn torri’r cylch tlodi”.
Dywedodd Ben Lake AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys:
“Mae Ceredigion ymhlith unarddeg awdurdod lleol Cymreig sydd heb dderbyn ceiniog o’r cylch “Ffyniant Bro” heddiw. Mae’r ffaith bod nifer o’r ardaloedd sydd heb dderbyn nawdd heddiw wir angen “ffyniant bro”, tra bo rhai sydd wedi elwa ymhlith ardaloedd cyfoethoca’r DU, yn codi amheuaeth am addasrwydd y fethodoleg a ddefnyddir i ddosrannu’r nawdd.
“Cafwyd addewidion lu yn ystod y ddadl ar Brexit, ond efallai mai honiad y Ceidwadwyr na fyddai Cymru derbyn “ceiniog yn llai” oedd yr yn fwyaf digywilydd. Gallai’r addewid maniffesto yna ddim bod yn llai gwir, gyda Chymru ar ei cholled o ryw £1.1b o gymharu â chynlluniau blaenorol y DU.
“I wneud pethau’n waeth, mae gwariant y pen llywodraeth leol wedi gostwng 9.4% rhwng 2009-2020. Mae’r syniad y dylem fod yn ddiolchgar am y fraint o gael cystadlu am bot bach o arian yn sarhaus. Nid yw’r ffordd fympwyol ac ad-hoc mae San Steffan yn dosrannu’r nawdd yma yn gydnaws a’r math o gynllun economaidd hirdymor cydlynol sydd ei angen er mwyn torri’r cylch tlodi.
O’r cychwyn cyntaf, mae Plaid Cymru wedi galw i’r nawdd gael ei rannu yn ôl yr angen. Os yw Llywodraeth y am adfer unrhyw hygrededd ar “ffyniant bro”, mae angen iddynt adolygu ei criteria fel bod Cymru yn derbyn nawr yn ôl ein hangen perthnasol.”
Dangos 1 ymateb