Cau banciau: Ergyd arall i’r stryd fawr

Ddoe cafwyd wybod bydd cangen banciau Halifax yn Aberystwyth a Lloyds yn Aberteifi yn cau yn yr haf.

Er fod Grwp Lloyds yn datgan na fyddant yn gadael ein cymunedau’n llwyr, a bydd rhai gwasanaethau ar gael mewn ffurf banciwr cymunedol, mae colli mwy o ganghennau banc, ddim yn hir ers i Barclays hefyd gyhoeddi cau eu canghennau yn Aberteifi ac Aberystwyth, yn glec caled i stryd fawr ein ddwy prif dref yng Ngheredigion.

Dywedodd Elin Jones AS:  “Mae mor siomedig clywed y newyddion yma fydd yn gweld Aberteifi ac Aberystwyth yn colli mwy o’u prif fanciau oddi ar y stryd fawr. Er gallwn werthfawrogi bod y ffordd rydym yn bancio i nifer fawr ohonom yn digwydd ar ein ffonau neu arlein rhagor, mae rhan o’n cymdeithas dal i fod yn hollol ddibynnol ar fancio wyneb-i-wyneb yn eu cangen lleol. Mae’n ofnadwy bo ni yn y fath sefyllfa, a gobeithio deith rhywbeth allan o’r trafodaethau sy’n digwydd am greu hwbiau bancio cymunedol.”  

Dywedodd Ben Lake AS: "Er y ffaith i ni ddarllen mis diwethaf fod sector bancio'r DU yn adrodd elw blynyddol uchel iawn ar gyfer 2023, mae'n amlwg bo nhw'n benderfynol o leihau eu rhwydwaith o ganghennau. Roeddwn eisoes wedi trefnu cyfarfod â chynrychiolwyr o'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a LINK yn dilyn penderfyniad Barclays i gau eu canghennau yng Ngheredigion, ac felly bydd yn rhaid i mi godi'r achosion hyn hefyd nawr.

Mae'n glir fod angen i'r fframwaith rheoleiddio ar gyfer sefydlu hybiau bancio newid ar frys i sicrhau nad yw Ceredigion yn cael ei adael heb wasanaethau bancio. Rwyf eisoes yn cydweithio gyda Aelodau Seneddol eraill i gwrdd gyda'r rheolyddion i alw am ehangiad o'r maeni prawf cymhwyster fel bod modd sefydlu hybiau bancio mewn ystod mwy eang o bentrefi. Mae cyhoeddiad ddoe wedi cynyddu'r angen am symud yn gynt ar y mater.”


Dangos 1 ymateb

  • Branwen Davies
    published this page in Newyddion 2024-03-14 09:16:36 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.