101 peth...

101 peth mae Ben wedi'i wneud dros Geredigion

4046_PlaidCymru_Ben_Lake_Election19_Theme_Banners_Cy_V2-1.jpg

1. Wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus llwyddiannus yn Llandysul, Tregaron a Llanbedr Pont Steffan i gefnogi a hyrwyddo ymdrechion i adfywio'r economi leol a'n cymunedau

2. Wedi cyfrannu at drafodaethau a pharatoadau Bargen Twf Canolbarth Cymru

3. Wedi comisiynu adroddiad ar y model cyllido a ffefrir yn y dyfodol ar gyfer Cymru ar ôl gadael yr UE

4. Wedi cefnogi ymdrechion i ddod â chap cyflog y sector cyhoeddus i ben a rhoi’r codiad cyflog y maent yn ei haeddu i weithwyr y GIG

5. Wedi pleidleisio'n gyson yn erbyn lleihau cyllid llywodraeth ganolog ar gyfer llywodraeth leol

6. Wedi pleidleisio'n gyson dros fesurau i leihau osgoi treth

7. Wedi galw am ailwampio'r cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach – gan helpu i gefnogi ein busnesau bach

8. Wedi bod yn aelod gweithgar o'r Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Gyflogaeth Ieuenctid

9. Wedi arwain ar alwadau yn cefnogi rhyddhad ardrethi cyfredol i fragwyr bach, ac wedi galw i gyflwyno rhyddhad ardrethi ar gyfer gwinllannoedd bach

10. Wedi galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno 'Treth Amazon' a fyddai'n cynyddu'r dreth y mae busnesau mawr ar-lein yn ei thalu

4046_PlaidCymru_Ben_Lake_Election19_Theme_Banners_Cy_V2-2.jpg

11. Wedi brwydro'n barhaus am fwy o fuddsoddiad mewn band eang a seilwaith telathrebu symudol – gan ganiatáu i drigolion a busnesau elwa o gysylltedd yr 21ain ganrif

12. Wedi pleidleisio yn erbyn seilwaith rheilffyrdd cyflym newydd (HS2) – gan alw am fwy o fuddsoddiad yn rheilffyrdd, gorsafoedd a cherbydau Cymru

13. Wedi galw am osod rhwydwaith o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ledled Cymru

14. Wedi cefnogi'n llwyddiannus ystod o ymdrechion Seneddol yn galw am ddatrysiad cydweithredol 'Rhwydwaith Gwledig a Rennir' a fydd yn gwella cwmpas 4G yn sylweddol mewn ardaloedd gwledig

15. Wedi cefnogi a datblygu ailagor llinell reilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin a rhwydwaith trafnidiaeth fwy integredig yng ngorllewin Cymru

16. Wedi galw am fwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol sy'n helpu pobl i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus hanfodol

17. Wedi gweithio ochr yn ochr â chwmnïau rheilffyrdd i annog mwy o bobl anabl yng Ngheredigion i deithio ar y trên gan ddefnyddio'r Cerdyn Rheilffordd i Bobl Anabl

18. Wedi gwrthwynebu cau Canolfan Prawf Gyrru Llanbedr Pont Steffan

19. Wedi cefnogi grŵp gweithredu lleol yn eu hymdrechion i agor llwybr beicio newydd rhwng Llanbedr Pont Steffan a Thregaron

20. Wedi cefnogi galwadau i deithwyr dderbyn iawndal cwbl awtomatig yn sgil oedi ar drenau a chanslo trenau

21. Wedi gwrthwynebu dad-staffio a thoriadau i staff gorsafoedd rheilffordd a swyddfeydd tocynnau – gan hyrwyddo buddion gorsafoedd wedi’u staffio’n llawn i deithwyr

22. Wedi herio Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn gyson ar eu gwasanaeth gwael, gorlawn ar hyd Llinell y Cambria

23. Wedi cefnogi ymdrechion lleol i ddatblygu cysylltiadau teithio integredig lleol ym Mhenparcau, Bow Street ac ar draws Ceredigion – gan gysylltu teithio ar droed, ffordd, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus

4046_PlaidCymru_Ben_Lake_Election19_Theme_Banners_Cy_V2-7.jpg

24. Wedi annog Gweinidogion y Llywodraeth i ddod â chyfiawnder i ferched yr 1950au yn sgil newidiadau i'w Pensiwn Gwladol

25. Wedi cefnogi ymdrechion i godi'r isafswm cyflog i brentisiaid a phobl ifanc o dan 25 oed

26. Wedi cyflwyno bil bancio cynhwysfawr yn Nhŷ’r Cyffredin i sicrhau nad yw cwsmeriaid yn cael eu gadael heb wasanaethau ariannol sylfaenol trwy gau banciau

27. Wedi galw am gyllid parhaus ar gyfer Fforwm Rhieni a Gofalwyr Ceredigion

28. Wedi pwyso yn llwyddiannus ar Barclays i wyrdroi penderfyniad i atal cwsmeriaid rhag codi arian o rwydwaith Swyddfa'r Post

29. Wedi cefnogi RAY Ceredigion yn ei ymdrechion i sicrhau cyllid ar gyfer canolfan i deuluoedd sy'n mynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol

30. Wedi cefnogi ymdrechion i gael gwared ar y cymhwyster amser ar fudd-daliadau i bobl sydd â salwch terfynol

31. Wedi siarad yn y Siambr, gan feirniadu sgrapio trwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed

32. Wedi gwrthwynebu cyflwyno'r system Credyd Cynhwysol annheg – a gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth y DU ar gyfer cyflwyno'r budd-dal Gaeaf arfaethedig

33. Wedi gwrthwynebu taliadau rhanedig Credyd Cynhwysol yn San Steffan

34. Wedi cynnal cymhorthfa galw heibio Credyd Cynhwysol i gynnig cyngor a chefnogaeth i etholwyr

35. Wedi gwrthwynebu toriadau pellach i gymorth cyfreithiol

36. Wedi pleidleisio'n gyson dros gyfreithiau i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol

37. Wedi ysgrifennu miloedd o lythyrau i gefnogi cannoedd o etholwyr

38. Wedi cynnal cymorthfeydd cyngor rheolaidd ym mhob cornel o'r sir - gan gwrdd ag etholwyr a thrafod materion sy'n effeithio arnyn nhw

39. Wedi cwrdd ag ystod o grwpiau a Gweinidogion i gefnogi galwadau i benodi rheoleiddiwr i amddiffyn mynediad at arian parod i frwydro yn erbyn cau canghennau banc a phwyntiau arian parod

40. Wedi cefnogi ymgyrch Dinasyddion Byd-eang sy'n ceisio ehangu'r gefnogaeth ymhlith pobl ifanc i ddileu tlodi eithafol erbyn 2030

41. Wedi esgor ar drafodaethau i sefydlu Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar wasanaethau mewn ardaloedd gwledig

42. Wedi cefnogi galwadau i Lywodraeth y DU sicrhau bod y Pensiwn Anabledd Rhyfel wedi'i eithrio rhag asesiadau incwm a bod cyn-filwyr yn derbyn ei werth llawn

43. Wedi'i benodi'n Is-gadeirydd y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Ffermio’r Ucheldir – yn cwrdd â chynrychiolwyr o Undebau’r Ffermwyr yn aml, ac yn cymryd rhan mewn llawer o ymweliadau fferm i fesur pryderon yn well

44. Wedi galw am fwy o bwerau i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i helpu i fynd i'r afael â gweithgareddau diegwyddor cwmnïau benthyciadau Diwrnod Cyflog

45. Wedi siarad yn San Steffan yn galw ar Lywodraeth y DU i roi mwy o ystyriaeth i gyflyrau iechyd meddwl mewn asesiadau ar gyfer PIP ac ESA

46. Wedi cefnogi ymdrechion i gael gwared ar y bandiau cyflog yn y Cyflog Byw Cenedlaethol – gan hyrwyddo cyflog teg i'r rheini o dan 25 oed

47. Wedi herio Llywodraeth y DU wrth newid ffioedd profiant

4046_PlaidCymru_Ben_Lake_Election19_Theme_Banners_Cy_V2-3.jpg

48. Wedi annog Gweinidog Iechyd Cymru i recriwtio mwy o ddeintyddion y GIG i fynd i’r afael ag argyfwng deintyddol yng Ngheredigion

49. Wedi galw am fwy o ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau gofal llygaid y GIG i fynd i'r afael ag amseroedd aros hir

50. Wedi cyfrannu at seminar FUW ar effaith TB Buchol ar iechyd meddwl ffermwyr

51. Wedi cefnogi Ardal 43 yn ei hymdrechion i lansio cwnsela ar-lein am ddim i bobl ifanc yng Ngheredigion

52. Wedi'i benodi'n Is-gadeirydd y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Haemochromatosis Genetig

53. Wedi cefnogi Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol i dynnu sylw at rôl bwysig Addysg Gorfforol a chwaraeon ysgol mewn addysg

54. Wedi siarad o blaid ymdrechion i ehangu argaeledd cyffuriau fel Orkambi i helpu i drin Ffeibrosis Systig a chefnogi ymdrechion yn galw am gyfreithloni canabis meddygol

55. Wedi cefnogi camau i ddiogelu hawliau dinasyddion yr UE sy'n gweithio yn ein GIG

56. Wedi pleidleisio yn erbyn preifateiddio ein GIG ac wedi gwrthwynebu ymdrechion iddo gael ei werthu i UDA Donald Trump

57. Wedi galw am fwy o gefnogaeth iechyd meddwl mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru

58. Wedi cefnogi Starlings Aberystwyth yn ei ymdrechion i sicrhau cyllid ar gyfer Wheel Together, prosiect beicio cymunedol

59. Wedi galw ar Lywodraeth y DU a Chymru i roi mwy o bwyslais ar ymwybyddiaeth iechyd meddwl o fewn cwricwlwm yr ysgol

60. Wedi'i benodi yn Ysgrifennydd ar Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Fabanod Cynamserol a Sâl, a galw am fwy o hawliau a chefnogaeth i rieni babanod cynamserol

61. Wedi galw am gyllid digonol ar gyfer ymchwil biofeddygol i ME a gofal clinigol i'r rhai sy'n dioddef o'r afiechyd

62. Daeth yn Eiriolwr Canser y Coluddyn i arwain newid yn y Senedd i bobl y mae'r afiechyd yn effeithio arnynt

63. Wedi galw am ganllawiau cenedlaethol safonedig ar gyfer gwneud diagnosis o haemochromatosis i wella'r gyfradd diagnosis i gleifion

64. Wedi cefnogi ymdrechion i ddiogelu a gwella gofal cymdeithasol yn lleol – a gwrthwynebu cau Bodlondeb

4046_PlaidCymru_Ben_Lake_Election19_Theme_Banners_Cy_V2-5.jpg

65. Wedi'i benodi'n Is-Gadeirydd Grŵp Seneddol Hollbleidiol Prifysgolion sy'n archwilio materion sy'n effeithio ar sector prifysgolion y wlad ac ymchwil prifysgol

66. Wedi sicrhau ymrwymiad ariannol gan Lywodraeth y DU i ariannu codiad cyflog i athrawon yng Nghymru

67. Wedi cynnal a chefnogi cyfarfodydd gyda disgyblion, rhieni ac athrawon ynghylch cyllid tecach i ysgolion

68. Wedi sicrhau cyllid ar gyfer pensiynau athrawon – gan helpu i sicrhau consesiynau ariannol a chaniatáu i ysgolion barhau i addysgu

69. Wedi cefnogi ymdrechion Seneddol i gefnogi cynllun Erasmus+ ym Mhrifysgolion y DU

70. Aelod o'r Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Wyddoniaeth a Thechnoleg mewn Amaethyddiaeth

71. Wedi gwneud 42 o ymweliadau ag ysgolion cynradd ac uwchradd i drafod gwleidyddiaeth, San Steffan a democratiaeth gyda disgyblion

72. Wedi'i benodi'n Is-gadeirydd y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Gyfranogiad Democrataidd

4046_PlaidCymru_Ben_Lake_Election19_Theme_Banners_Cy_V2-6.jpg

73. Wedi cyflwyno Cynnig Cynnar-yn-y-Dydd yn cefnogi ymdrechion cymunedau i wahardd defnyddio plastigau un defnydd

74. Wedi annog Llywodraeth y DU i ymrwymo i fwy o fuddsoddiad mewn arloesi carbon isel fel rhan o'r strategaeth twf glân

75. Wedi helpu i sicrhau tro pedol Llywodraeth y DU ar gynlluniau archwilio olew arfaethedig ym Mae Ceredigion

76. Wedi hwyluso a chefnogi sesiynau casglu sbwriel cymunedol yn lleol

77. Wedi cefnogi datganiad Seneddol o argyfwng hinsawdd

78. Wedi herio Llywodraethau Cymru a'r DU am dargedau mwy uchelgeisiol i fynd i'r afael â llygredd aer a dŵr

79. Wedi gwrthwynebu diwedd cefnogaeth tariff Cyflenwi ar gyfer Ynni Solar o'r 31ain Mawrth 2019

80. Wedi gwrthwynebu ffracio – galw ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu canllawiau cryfach i fonitro'r diwydiant

81. Wedi gwrthwynebu cynlluniau Llywodraeth i godi lefel y TAW ar osodiadau ynni adnewyddadwy gan gynnwys solar o 5% i 20% o Hydref 1af

82. Wedi herio Llywodraeth y DU am bryderon ynghylch cyflwyno technoleg 5G

83. Wedi gofyn i Network Rail ystyried plannu coed yn lle'r fioamrywiaeth a gollwyd yn sgil ei raglen cwympo coed ar ochrau llinellau

84. Wedi'i enwebu yn Eiriolwr Plastig Seneddol – yn hyrwyddo polisi di-blastig yn San Steffan

85. Wedi annog Llywodraeth y DU i ystyried bwrw ymlaen â phrosiectau morlyn llanw yng Nghymru er mwyn datgarboneiddio ein cyflenwad ynni a sicrhau swyddi gwyrdd

86. Wedi galw ar Lywodraeth y DU a Chymru i roi mwy o bwyslais ar newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd o fewn cwricwlwm yr ysgol

87. Wedi arwain ar gynnig i gyflwyno treth ar blastig i dalu am gost ailgylchu

88. Wedi ysgrifennu at Weinidog Llywodraeth y DU i’w hannog i gyflwyno ardoll o 1c er mwyn mynd i’r afael â ‘Ffasiwn Cyflym’

4046_PlaidCymru_Ben_Lake_Election19_Theme_Banners_Cy_V24.png

89. Wedi cefnogi Ymgyrch Bad Achub Ceredigion trwy godi pryderon yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog, cyflwyno Cynnig Cynnar-yn-y-Dydd, a chyfarfod â chynrychiolwyr RNLI a'r Adran Drafnidiaeth

90. Wedi cwrdd â'r Gweinidog Morwrol i godi pryderon am wasanaethau gwylwyr y glannau Ceredigion

91. Wedi galw am fwy o arian ac adnoddau i heddluoedd fynd i'r afael â chynnydd mewn troseddau gwledig

92. Wedi gofyn i'r Gweinidog Plismona adolygu fformiwla ariannu'r heddlu ar frys i adlewyrchu anghenion gwledig yn well

93. Wedi cefnogi galwadau i Lywodraeth y DU adolygu troseddau gyrru a chosbau i helpu i hyrwyddo ymhellach ddiogelwch i ddefnyddwyr ffyrdd

94. Wedi gwrthwynebu cynlluniau Llywodraeth y DU i ddyblu'r terfyn isaf ar Hawliadau Bach ar gyfer dioddefwyr damweiniau yn y gweithle – gan alw am fwy o fesurau i sicrhau diogelwch gweithwyr yn y gweithle

95. Wedi gweithio'n agos â Chyngor Sir Ceredigion, Llywodraeth Cymru a Heddlu Dyfed-Powys wrth alw am orfodi mwy o fesurau goryrru ar hyd ffyrdd ar draws Ceredigion

96. Wedi gweithio ochr yn ochr â thrigolion ac ymgyrchwyr i helpu i hyrwyddo a chefnogi ymdrechion i osod palmentydd addas ar hyd yr A487 mewn pentrefi fel Dole, Eglwysfach a Ffwrnais

97. Wedi cefnogi deddfwriaeth yn galw ar y Llywodraeth i weithredu ar uwchsbecian (upskirting)

98. Wedi addo cyflwyno deddfwriaeth newydd a fydd yn troseddoli perchnogion cŵn y mae eu hanifeiliaid yn ymosod ar dda byw – deddfwriaeth a fydd yn cynnig mecanwaith i sicrhau iawndal i ffermwyr

99. Wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn cefnogi ymgyrch Cŵn Tywys i ddod â pharcio anystyriol ar balmentydd i ben

100. Wedi galw ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â chyflwyno hyfforddiant cydraddoldeb anabledd gorfodol i helpu pob gyrrwr minicab a thacsi i ddeall sut i ddarparu'r gwasanaeth cywir i deithwyr anabl

101. Wedi cefnogi gwaith Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i ailgyflwyno camerâu teledu cylch cyfyng mewn trefi ledled Ceredigion

Clawr_101_things.png

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.