Ymwelodd Ben Lake AS ag Ysgol Bro Sion Cwilt i ddathlu pwysigrwydd AG a chwaraeon ysgol i les pobl ifanc.
Mae'r ysgol yn un o filoedd ar draws y DU sy'n cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol YST 2019, o’r 24ain i’r 28ain o Fehefin.
Cydlynir y dathliad blynyddol gan yr elusen blant Youth Sport Trust i dynnu sylw at rôl bwysig Addysg Gorfforol a chwaraeon ysgol mewn addysg.
Daw hyn ar adeg pan fo ymchwil cenedlaethol yn dangos bod llai nag un o bob pump o bobl ifanc yn gorfforol egnïol am 60 munud bob dydd a bod miloedd o oriau AG wedi cael eu colli ers 2012.
Ar gyfer Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol YST eleni, mae ysgolion yn dangos sut mae AG a chwaraeon ysgol yn gwella lles pobl ifanc. Mae'r thema’r wythnos yn canolbwyntio ar y Pum Ffordd at Les sy'n nodi mai'r pum allwedd i iechyd meddwl a lles da yw bod yn weithgar, cysylltu, rhoi yn ôl, cymryd sylw a dysgu.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae wedi bod yn wych ymweld ag Ysgol Bro Siôn Cwilt yn ystod Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol a gweld dros fy hunan y rôl hanfodol y mae Addysg Gorfforol a chwaraeon ysgol yn ei chwarae ym mywydau disgyblion yn yr ysgol.
“Mae cymryd rhan mewn chwaraeon ysgol ac addysg gorfforol o ansawdd dda nid yn unig yn rhoi'r cyfle gorau i bobl ifanc fyw bywydau iach a gweithgar, ond gallant hefyd ddod â manteision enfawr o ran gwella lles, canolbwyntio a datblygu cymeriad a sgiliau bywyd.
“Mae mor bwysig bod pob person ifanc yn cael y cyfleoedd hyn, a dyna pam rwyf wrth fy modd yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol yr Youth Sport Trust.”
Dywedodd Nia Lloyd-Thomas, Pennaeth Ysgol Bro Sion Cwilt:
“Rydym yn credu yn Ysgol Bro Sion Cwilt ei bod yn bwysig iawn bod pob disgybl yn cael y cyfle i fyw bywyd egnïol ac iach. Rydym wrth ein bodd bod Ben Lake AS wedi ymweld â ni heddiw i weld y gwaith gwych yr ydym yn ei wneud i hyrwyddo AG a chwaraeon ysgol ar draws yr ysgol ”
Dywedodd Ali Oliver, Prif Weithredwr yr Youth Sport Trust:
“Mae Addysg Gorfforol a chwaraeon ysgol o ansawdd dda yn galluogi pobl ifanc i fynd i'r afael â rhai o'r heriau mawr sy'n eu hwynebu heddiw - gwella eu lles, eu paratoi i ddysgu a'u helpu i gysylltu. Ond yn y blynyddoedd diwethaf mae pobl ifanc wedi mynd yn llai egnïol ac mae AG wedi cael ei danbrisio a'i dorri'n ôl.
“Dim ond gyda chydweithio rhwng ysgolion, athrawon, rhieni ac eraill y byddwn yn gallu dadwneud hyn a dangos pam fod gan AG a chwaraeon ysgol rôl hanfodol i'w chwarae yn addysg pob person ifanc, a dylid ei ystyried yn gyfartal â Mathemateg a Saesneg.
“Rydym wrth ein bodd bod Ben Lake AS ac Ysgol Bro Sion Cwilt yn cefnogi'r gwaith hyn trwy gymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol YST eleni.”