Ben Lake AS yn cefnogi ymgyrch i ffrwyno parcio stryd

benlake_pavementparking.png

Mae Ben Lake AS wedi cwrdd gyda chynrychiolwyr o’r elusen Guide Dogs er mwyn ymestyn ei gefnogaeth i’w hymgyrch sy’n galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno deddfau newydd er mwyn herio parcio diystyriol ar balmentydd ar ein strydoedd mawr.

Mae ystadegau diweddar gan yr elusen yn nodi fod 97% o unigolion dall neu yn rhannol ddall wedi profi problemau gydag annibendod stryd; gan gynnwys biniau, byrddau hysbysebu, ac yn enwedig ceir sydd wedi parcio ar balmentydd. Gall fath rwystrau fod yn nodedig o beryglus i unigolion dall a rhannol ddal, gan yn aml gael eu gorfodi i gerdded ar y ffordd i’w osgoi – ac felly rhoi eu bywyd mewn peryg.

Mae’r elusen Guide Dogs yn galw am gyfraith gyffredinol ar draws y DU a fyddai yn amlygu’r peryg sydd yn deillio o barcio ar balmentydd; gan gynyddu’r grymoedd sydd ar gael i awdurdodau lleol er mwyn medru cyfeirio problemau rheolaidd.

Dywedodd Ben Lake AS:

“Rwyf yn falch iawn o gefnogi’r ymgyrch hon gan Guide Dogs er mwyn atal parcio palmant diystyriol, a gall gael effaith frawychus ar unigolion dall a rhannol ddall, ynghyd a bod yn niwsans i rieni gyda phramiau, defnyddwyr cadeiriau olwyn, a’r henoed.”

“Gobeithiaf fydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r mesurau angenrheidiol i’r Ddeddf Traffig Ffordd 1988 er mwyn sicrhau gall awdurdodau lleol ar draws y DU dderbyn y grymoedd priodol i herio’r broblem o barcio palmant diystyriol.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.