Mae ymgyrch fawr newydd i ddod â diwedd i ymosodiadau gan cŵn ar draws Cymru wedi ennill cefnogaeth Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake. Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ymuno gyda sefydliadau eraill er mwyn atgoffa perchnogion cŵn – “Eich ci, eich cyfrifoldeb” ac yn galw am newidiadau deddfwriaethol fydd yn adlewyrchu difrifoldeb y drosedd.
Mae Mr Lake wedi addo dod â Bil Aelod Preifat o flaen y Tŷ’r Cyffredin i greu deddfwriaeth newydd fydd yn dod â pherchnogion cŵn sy’n ymosod ar dda byw i gyfraith ac yn darparu ffordd i ffermwyr dderbyn iawndal.
Yn allweddol i’r cynnig diweddara yma yw ffigyrau gan Heddlu Gogledd Cymru, yr unig lu sy’n cadw cofnod ac ystadegau, sy’n dangos bod 89 y cant o’r holl ymosodiadau gan gŵn ar dda byw yn digwydd pan maent ar grwydr o’u cartref.
Dywed Dr Hazel Wright, Uwch Swyddog Polisi Undeb Amaethwyr Cymru, “Rydym yn ddiolchgar iawn i Heddlu Gogledd Cymru am gofnodi’r data yma. Roedd ymgyrchoedd blaenorol wedi canolbwyntio ar gerddwyr cŵn, ond dengys ffigyrau mai’r prif fater yw’r cŵn sy’n dianc o’r ardd gefn. Does dim llawer gallwn ei wneud i gael iawndal i ffermwyr neu i leihau’r siawns o aildroseddu o dan y gyfraith bresennol.”
Cred yr Undeb mai’r unig ffordd i ddelio gyda’r cynnydd mewn ymosodiadau yw drwy gyflwyno cyfreithiau newydd fydd yn arf ataliol cryf. Roedd 449 achos o ymosodiadau ar dda byw rhwng 2013-2017 yng ngogledd Cymru yn unig, ond mae nifer fawr o achosion heb eu hadrodd oherwydd diffyg hyder yn y system gyfreithiol. Cafodd tua 15,000 o ddefaid eu lladd gan gŵn yn 2016. Ar werth o £75 y carcas, mae hyn yn golled o £1.3 miliwn. Mae colledion eraill yn cynnwys erthyliadau, colli stoc bridio a chostau milfeddygol.
Ar hyn o bryd mae 4 prif ddarn i’r gyfraith yn ymwneud ag ymosodiadau ar dda byw ond maent i gyd yn hen ffasiwn a ddim yn unol â’r drefn amaethyddol bresennol na difrifoldeb y drosedd.
Dywed Mr Lake: “Mae hyn yn fater pwysig i ffermwyr da byw yng Nghymru, sy’n cael effaith ar incwm ac mewn rhai sefyllfaoedd yn achosi problemau iechyd meddwl dirfawr ar y rhai sydd wedi’u heffeithio. Byddaf yn cyflwyno Bil Aelod Preifat pan fydd y Senedd yn ailymgynnull mewn ymgais i gyflymu'r broses i gael y pwerau fydd yn cael eu hanelu i leihau’r achosion sy’n fygythiad difrifol i fywyd a bywoliaeth yng nghefn gwlad.”
Dywedodd Dr Wright: “Mae’n edrych yn debyg nad yw addysgu yn unig yn gallu datrys y mater cymhleth yma. Mae diffyg gweithredu cyfreithiol sylweddol yn golygu nad oes yna unrhyw gymhelliad i droseddwyr rhag torri’r gyfraith a bydd Undeb Amaethwyr Cymru yn dal ati nes bod deddfwriaeth yn ei le i sicrhau bod gan heddlu Cymru a Lloegr y pwerau i ddelio gyda’r troseddwyr."
Mae Undeb Amaethwyr Cymru am weld:
- Cofnodi gorfodol o ymosodiadau cŵn ar dda byw gan holl luoedd Cymru.
- Newid i’r dirwyon cyfyngedig a hen – y gosb ar hyn o bryd yw dirwy o hyd at £1,000 a dim cyfnod mewn carchar
- Dylai’r dirwyon i droseddwyr fod yn gyfatebol ac yn cynnwys iawndal llawn.
- Pwerau i luoedd heddlu i sicrhau sampl DNA wrth gŵn sy’n cael eu hamau o ymosod.
- Pwerau i gymryd ci.
- Cyfrifoldeb cyfreithiol ar berchennog ci i roi gwybod am ymosodiad er mwyn atal dioddefaint i ddefaid sydd wedi’u hanafu.
- Dylai methu adrodd am ymosodiad fod yn drosedd.
- Pŵer i atal perchennog rhag perchen ci arall.
- Pŵer i ddifa ci yn dilyn euogfarn a deddf 1953.
Mae cynigion eraill yn cynnwys newid i ddiffyniad o ‘dir âr’. Dim ond ar dir âr mae’r ddeddf yn orfodol ac os yw’r ffermwr yn symud defaid rhwng caeau ar y ffordd fawr ni ellir gweithredu’r ddeddf.
Mae angen diffiniad ehangach o ‘dda byw’ gan nad yw anifeiliaid fel ceirw, lamas ac alpacas wedi’u cynnwys yn neddf 1953.
Mae angen diffiniad cywir i ‘o dan reolaeth agos’ gan fod hyn yn cyfeirio at gŵn sy’n cael eu cerdded yn agos i dda byw.