Yr wythnos hon yn San Steffan cynhaliwyd digwyddiad lansio y grŵp amlbleidiol newydd, mewn partneriaeth â’r NFU, ac a fynychwyd gan ASau ar draws y sbectrwm gwleidyddol, gan gynnwys y gweinidog amaeth George Eustice.
Yn ystod y digwyddiad lansio, dysgodd yr ASau ragor am gyfraniad sylweddol ffermio mynydd a thir uchel i gynhyrchu bwyd, cynnal a gwella yr amgylchedd a gweithio dros y gymuned wledig.
Cyflwynodd y grŵp amlbleidiol gopi o ‘Faniffesto ar gyfer yr Ucheldir’ i’r gweinidog sy’n galw am fwy o gyllid i ffermio mynydd yn ogystal â galw ar y Gweinidog i sicrhau mynediad rhydd o dariff i farchnad yr UE.
Dywedodd Ben Lake:
“Mae’n anrhydedd cael fy ethol yn is-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol seneddol newydd ar gyfer ffermio mynydd.
“Mae’n holl bwysig fod yna grŵp yn y Senedd a fydd yn lais i ffermwyr mynydd sy’n gweithio mor galed ac sydd mor allweddol i’r economi leol a’r amgylchedd.
“Rwy’n edrych ymlaen i barhau i weithio gyda NFU Cymru ac UAC yn ogystal â chydweithwyr ar draws y Tŷ i sicrhau bod ein ffermwyr mynydd yn cael y fargen deg maent yn eu haeddu.”