Mae Ben Lake AS wedi ymuno â'r diwydiant rheilffyrdd i annog mwy o bobl anabl yng Ngheredigion i deithio ar drên gan ddefnyddio'r Cerdyn Trên i Bobl Anabl, sy'n cynnig gostyngiad o draean o gost y siwrnai.
Mynychodd Ben Lake ddigwyddiad seneddol ar hygyrchedd a chynhwysiant ar y rheilffordd, a gynhaliwyd gan y Rail Delivery Group, sy'n cynrychioli gweithredwyr trenau a Network Rail. Dangosodd y digwyddiad y gwaith y mae'r diwydiant rheilffyrdd yn ei wneud i newid a gwella'r rhwydwaith i'w wneud yn fwy hygyrch. Mae hyn yn cynnwys galluogi pobl anabl i wneud siwrneiau gostyngol drwy ddefnyddio’r Cerdyn Trên i Bobl Anabl.
Y llynedd, gwnaed 2,969 o siwrneiau o Geredigion gan ddefnyddio'r Cerdyn Rheilffordd, cynnydd o 2,401 yn 2015. Mae hyn yn cymharu â chynnydd o 43% ar draws y wlad gyfan, gyda theithiau Cerdyn Trên i Bobl Anabl wedi codi o 5 miliwn yn 2015 i 7 miliwn yn 2019.
Mae'r Cerdyn Trên i Bobl Anabl yn cynnig gostyngiad o draean oddi ar bris tocynnau trên i oedolion ar unrhyw adeg ar y rhwydwaith Rheilffyrdd Cenedlaethol i bobl ag anabledd, yn ogystal â chydymaith. Ar gyfartaledd, mae teithwyr â Cherdyn Trên i Bobl Anabl yn arbed £108 y flwyddyn, hyd yn oed ar ôl talu £20 am y cerdyn.
Mae'r cynnydd mewn teithiau hygyrch yn adlewyrchu'r gwaith y mae cwmnïau rheilffordd yn ei gyflawni i wneud gwasanaethau'n fwy hygyrch. Yn ddiweddar lansiodd y diwydiant ‘Map Mynediad' rhyngweithiol newydd er mwyn ei gwneud hi’n haws i deithwyr ddarganfod pa mor hygyrch yw eu gorsaf leol. Mae'r diwydiant hefyd yn cydweithio i wella cymorth archebu i deithwyr, gyda thechnoleg newydd yn cael ei chyflwyno ar hyn o bryd i staff ac ap cwsmer yn cael ei lansio'r haf nesaf i wneud archebu yn haws.
Ers 2006, mae'r diwydiant rheilffyrdd wedi cwblhau gwelliannau o £500 miliwn mewn gorsafoedd gan gynnwys eu gwneud yn fwy hygyrch, gyda £300 miliwn o gyllid ychwanegol gan y llywodraeth i wneud 73 o orsafoedd yn fwy hygyrch erbyn 2024.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Dylai pawb yng Ngheredigion gael y cyfle i deithio ar drên ac mae digwyddiad heddiw yn dangos bod y diwydiant rheilffyrdd yn gweithio'n galed i wella hygyrchedd ledled y wlad a gwneud y rheilffordd yn haws i bawb ei defnyddio. Rwy'n falch o weithio gyda'r cwmnïau rheilffordd i godi ymwybyddiaeth o'r gostyngiadau a gynigir gan y Cerdyn Trên i Bobl Anabl ac rwy'n gobeithio y bydd mwy o bobl yn elwa o arbedion mawr y gellir eu gwneud. ”
Dywedodd Jac Starr, prif swyddog gweithredol y Rail Delivery Group, sy'n cynrychioli cwmnïau trenau a Network Rail:
“Rydym yn gweithio'n galed i wella'r rheilffordd, gan wneud mwy o orsafoedd yn rhydd o stepiau ac ychwanegu miloedd o gerbydau newydd a rhai sydd wedi'u hadnewyddu sy'n fwy hygyrch. Er bod y nifer fwyaf erioed o bobl yn arbed arian gyda'r Cerdyn Trên i Bobl Anabl, rydym am i bawb elwa o'r gwelliannau yr ydym yn eu gwneud, a dyna pam rydym yn annog pobl anabl cymwys i gofrestru ar gyfer cerdyn ac arbed costau ar eu siwrneiau.”
Dywedodd Gweinidog Hygyrchedd Trafnidiaeth Nusrat Ghani:
“Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i wella profiad teithwyr anabl ar draws ein rhwydwaith.
“Gan weithio ochr yn ochr â'r Rail Delivery Group a'r Pwyllgor Cynghori ar Gludiant Pobl Anabl, rydym yn adolygu meini prawf cymhwyster y Cerdyn Trên i Bobl Anabl ar hyn o bryd, gan edrych ar sut y gallwn wella darpariaethau ar gyfer gofalwyr neu gydymaith.
“Yn ddiweddar, cyhoeddom hefyd fod y 73 gorsaf yn derbyn cyfran o gyllid Mynediad i Bawb, gan ein bod yn gweithio tuag at rwydwaith trafnidiaeth cwbl hygyrch erbyn 2030 gyda chymorth os yw seilwaith ffisegol yn parhau i fod yn rhwystr.”