Cynllun teledu cylch cyfyng yn cael sylw mewn dadl yn San Steffan

dafydd-llywelyn-photo.jpg

Ar ddydd Iau 11eg Ebrill, cyfrannodd Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion mewn dadl ar atal troseddau mân werthu yn San Steffan.  Yn ystod ei gyfraniad, cyfeiriodd Mr Lake at ail gyflwyno isadeiledd teledu cylch cyfyng mewn trefi ar draws Ceredigion ac ardal Dyfed Powys, diolch i Dafydd Llewelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys.

Mae addewid y Comisiynydd Heddlu a Throsedd i ail-fuddsoddi mewn teledu cylch cyfyng yn yr ardal yn arwain y ffordd i ddatrys ac atal troseddau mân werthu yn ein prif strydoedd.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys: "Rwyf yn gweithredu fy addewid i ail-fuddsoddi mewn isadeiledd teledu cylch cyfyng modern er mwyn gwella diogelwch yn ein trefi ac i gyfrannu tuag at adfywio canol trefi ar draws ardal y llu."

Ychwanegodd Mr Llywelyn: “Rwyf wedi cael gwybodaeth gan Heddlu Dyfed Powys bod cael lluniau o safon uchel wedi arwain at nifer o ddatgeliadau llwyddiannus, a fydd yn cael eu defnyddio fel tystiolaeth i ddod a throseddwyr i gyfiawnder."

Dywedodd Ben Lake AS:  "Mae ail-gyflwyno teledu cylch cyfyng yn Aberystwyth ac Aberteifi wedi’i groesawi gan berchnogion siopau a thrigolion lleol.  Yn ogystal â helpu datgelu ac erlyn mewn rhai achosion o droseddau mân werthu, mae hefyd yn atal digwyddiadau."

Bydd isadeiledd newydd teledu cylch cyfyng o fudd i gymunedau a gobeithio yn help i atal digwyddiadau.

Mae 123 o gamerâu teledu cylch cyfyng yn cael eu gosod mewn 17 tref ar draws ardal llu Heddlu Dyfed Powys.  Mae’r gwaith gosod bron a’i gwblhau gyda 15 o’r o 17 tref yn anfon delweddau byw nôl at Heddlu Dyfed Powys.

 

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.