Ben Lake AS yn cefnogi deiseb yn galw i leihau oed sgrinio canser y coluddyn

Screen_at_50_Bowel_Cancer_UK_Petition.jpg

Mae Ben Lake AS yn cefnogi elusen Canser y Coluddyn a’r ymgyrch i drechu canser y coluddyn wrth iddyn nhw gyflwyno deiseb a grewyd gan Lauren Backler, yn galw leihau oed sgrinio canser y coluddyn o 60 i 50, fel sy’n digwydd yn yr Alban ac mewn nifer o wledydd ar draws y byd. Mae’r ddeiseb wedi cael ei lofnodi gan dros 445,000 o bobl.

Lauren, 27 oed o Eastbourne ddechreuodd y ddeiseb i gofio am ei mam a fu farw o’r afiechyd yn 56 mlwydd oed. Ymunodd Ben Lake AS â Lauren yn ogystal ag ASau eraill ar draws y sbectrwm gwleidyddol. Bu i gefnogwyr yr elusen a ganfuwyd bod ganddynt ganser y coluddyn yn eu 50au ymuno â hwy hefyd, yn ogystal ag unigolion sydd wedi colli anwyliaid o ganlyniad i ganser y coluddyn a gafodd ddiagnosis yn ystod eu 50au.

Ar hyn o bryd dim ond pobl sydd wedi cofrestru â meddyg lleol ac sydd rhwng 60 a 74 mlwydd oed fydd yn derbyn prawf sgrinio canser coluddyn yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, a hynny yn y post bob dwy flynedd. Yn yr Alban, caiff pobl rhwng 50 a 74 wahoddiad i gael eu sgrinio.

Canser y coluddyn yw’r ail fath o ganser sy’n lladd y mwyaf yng Nghymru gyda dros 2,200 o bobl yn marw o’r afiechyd bob blwyddyn, a tua 16,000 o bobl yn marw o’r afiechyd yn y Deyrnas Gyfunol. Mae tua 4,500 o bobl yn y Deyrnas Gyfunol yn derbyn diagnosis yn eu 50au gyda dros 1,200 o’r categori oed hyn yn marw o’r afiechyd bob blwyddyn.  

Mae elusen Bowel Cancer UK a Beating Bowel Cancer yn galw am staff ac adnoddau ychwanegol yn y GIG er mwyn medru ymdopi â’r cynnydd yn y galw ar wasanaethau ym maes endoscopi a patholeg. Maent hefyd yn galw am gyflwyno’r prawf sgrinio canser y coluddyn FIT - prawf imwinocemegol ysgarthol - sy’n brawf sgrinio mwy effeithiol a haws i’w gwblhau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydda nhw’n disodli’r prawf sgrinio presennol gyda’r prawf FIT o 2019, ond nid ydynt eto wedi ymrwymo i leihau’r oed sgrinio i 50.

Dywedodd Ben Lake AS:

“Sgrinio yw’r ffordd orau i gael diagnosis canser y coluddyn yn gynnar, ar amser pan fo’r canser yn haws i’w drin, ac dyna pam dwi’n falch i gefnogi’r ymgyrch hon. Dyma gynllun allai achub cannoedd o fywydau ac rwyf wedi ymrwymo i gefnogi’r achos ac i helpu wneud hyn yn realiti ar gyfer pobl Cymru.”

Dywedodd Asha Kaur, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd yn Bowel Cancer UK a Beating Bowel Cancer:

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Ben Lake am gefnogi ein galwad am wasanaeth sgrinio canser y coluddyn cyfartal ar draws y Deyrnas Gyfunol. Mae’n rhaid i ni wneud mwy i achub bywydau pobl sy’n dioddef o ganser y coluddyn oherwydd mae modd atal, trin a gwella’r afiechyd o gael diagnosis cynnar. Mae angen rhaglen sgrinio canser y coluddyn arnom ar frys sy’n cynnwys lleihau’r oed sgrinio i 50 mlwydd oed a chyflwyno prawf FIT.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.