Bu i Ben Lake AS gynnal yr ail mewn cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus yn Llanbed ar nos Wener, 13 Medi i drafod dyfodol a ffyniant y dref.
Cafwyd cynrychiolaeth dda o bobl yn y cyfarfod, yn berchnogion busnes, cynghorwyr tref a sir, cynrychiolwyr mudiadau, cynrychiolwyr o’r Brifysgol, yr heddlu lleol a thrigolion yr ardal.
Fesul grŵpiau bychan, a gyda Ben Lake yn hwyluso’r noson, trafodwyd pa asedau oedd yn perthyn i Lambed a sut gallai’r asedau hynny fod yn helpu’r gymdogaeth i greu ac adeiladu ar hunaniaeth a brand y dref. Yn gyffredinol, cytunwyd taw’r Brifysgol, iaith a diwylliant, y ganolfan Cwiltiau, adnoddau naturiol a’r amrywiaeth yng nghyfansoddiad y dref oedd ei phrif asedau.
Rhoddwyd cryn sylw hefyd i’r heriau hynny sy’n wynebu’r dref yn sgil nifer o ffactorau yn cynnwys allfudo pobl ifanc, toriadau i wasanaethau cyhoeddus, newidiadau yn arferion siopa a chymdeithasu pobl. Y prif heriau a nodwyd oedd y diffyg yn narpariaeth gwasanaethau iechyd a gofal lleol, parcio a chostau parcio yn y dref, isadeiledd trafnidiaeth cyhoeddus, diffyg arwyddion brown, diffyg camerau teledu cylch cyfyng a phresenoldeb yr heddlu gyda’r hwyr, a’r cysylltiad rhwng y dref a’r brifysgol.
Croesawyd y datganiad cadarnhaol a gafwyd gan gynrychiolydd y Brifysgol oedd yn nodi bod trafodaethau adeiladol wedi cychwyn rhwng y Brifysgol a phartneriaid lleol fyddai’n cryfhau’r cysylltiad rhyngddi hi a’r dref. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu yn fuan.
Cafwyd datganiad cadarnhaol hefyd gan yr heddlu oedd yn nodi y byddai camerau teledu cylch cyfyng yn cail eu hailgyflwyno yn Llanbed, yn rhan o addewid Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, ymhen rhai misoedd.
Bydd Ben Lake yn codi nifer o’r materion gafodd eu codi yn ystod y cyfarfod gyda’r awdurdodau perthnasol dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, ond y prif allbwn o’r cyfarfod oedd y penderfyniad i greu partneriaeth o randdeiliaid fyddai’n tynnu syniadau a chasgliadau’r cyfarfod hwn a chanlyniadau ymgynghoriad Cynlluniau Lle Llanbed at ei gilydd, gyda chefnogaeth gan yr Awdurdod Lleol, er mwyn creu cynllun gweithredu i’r dyfodol.