Mewn cyfnod ble mae gymaint o bwysau ar gyllid cartrefi ac o ganlyniad cynnydd yn lefelau o straen sydd arnom, efallai fyddwch angen rhyw fath o gymorth ychwanegol dros y gaeaf.
Mae yna lot fawr o wybodaeth a chefnogaeth ar gael, a dyma rhai o’r prif ffynonellau fel man cychwyn.
Mae peth cymorth ariannol ar gael drwy’r Llywodraeth:
Cael help gyda chostau byw | LLYW.CYMRU
Mae gan Cyngor ar Bopeth lwyth o wybodaeth ddefnyddiol am wahanol agweddau o’r argyfwng costau byw, ac mae ganddynt wasanaeth cefnogaeth a chyngor ar reoli dyledion:
Os ydych chi’n cael trafferth gyda chostau byw - Home (citizensadvice.org.uk)
Neu ffoniwch 03444 772 020
Mae yn nifer o fanciau bwyd ar draws y sir. Gall unrhyw un sydd ddim yn gallu fforddio i brynu bwyd fynd i’r banc bwyd i ofyn am gymorth. I ddod o hyd i’r un agosaf atoch, ewch i:
Banciau Bwyd Ceredigion - Cyngor Sir Ceredigion
Mae yna nifer o fannau croeso cynnes ar draws Ceredigion, yn cynnig lle cynnes a diogel i chi dreulio amser ynddi, ac yn cynnig cyfleoedd i gwrdd ag eraill. Am wybodaeth am y ganolfan agosach atoch chi, ewch i:
Map Mannau Croeso Cynnes | Dweud Eich Dweud Ceredigion
Os fyddwch chi’n teimlo’r angen i siarad gyda rhywun, mae cymorth lles ar gael:
CALL
Llinell gymorth 24 awr: 0800 132 737
Samaritans
Llinell gymorth 24 awr: 116 123
Dangos 1 ymateb