Newyddion diweddaraf
Ben Lake AS yn codi materion cysylltedd gwledig yn ystod sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Ar 22 Ebrill 2024, derbyniodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dystiolaeth lafar ar gefnogi cysylltedd symudol. Rhoddwyd tystiolaeth gan Sarah Munby (Ysgrifennydd Parhaol yn yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg), Emran Mian CB OBE (Cyfarwyddwr Cyffredinol Digidol, Technoleg a Thelathrebu yn yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg), a Dean Creamer CBE (Prif Weithredwr Building Digital UK).
AS a’r People’s Postcode Lottery yn uno i helpu elusennau Ceredigion.
Bydd Ben Lake AS yn cymryd rhan mewn gweithdy ariannu rhithiol ar gyfer elusennau lleol, cymdeithasau gwirfoddol, a grwpiau cymunedol gyda’r People’s Postcode Lottery a CAVO.
Bydd y sesiwn yn rhoi cyngor i achosion da yng Ngheredigion ar sut i ymgeisio am gyllid er mwyn gwneud hyd yn oed mwy o wahaniaeth yn ein cymunedau.
Grŵp cynghorwyr yn cefnogi digwyddiad i gofio'r plant a laddwyd yn Gaza
Mae Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Ceredigion yn croesawu ac yn cefnogi'r digwyddiad fydd yn cael ei gynnal ar y Prom yn Aberystwyth ddydd Sadwrn y 27ain o Ebrill : Y Cerrig Mân yn Cofio'r Plant a Laddwyd.