Mae Elin Jones, ymgeisydd Cynulliad Ceredigion Plaid Cymru wedi cwrdd a milfeddygon lleol i drafod cynlluniau ei phlaid i gefnogi bid Prifysgol Aberystwyth i sefydlu Coleg Milfeddygon i Gymru ac i ddatgblygu hyfforddiant lleol.
Ar hyn o bryd, does dim coleg milfeddygon yng Nghymru, gyda llawer o bobl ifanc lleol yn gorfod hyfforddi dramor. Mae yna hefyd brinder o filfeddygon yn mynd i ochr anifeiliad mawr a da byw y proffesiwn sy’n hanfodol ar gyfer amaeth lleol.
Gwnaeth Elin Jones, sy’n sefyll i gael ei hailethol fel AC dros Geredigion, gwrdd a Philip Thomas a’r tim yn Milfeddygon Ystwyth yn Llanbadarn Fawr.
Dywedodd Elin Jones,
“Roedd hi’n ddiddorol iawn cwrdd a Philip Thomas a’r tim yn Milfeddygon Ystwyth, i glywed am y sialens o hyfforddi milfeddygon ifanc fydd eu hangen yn y dyfodol.
“Mae Milfeddygon Ystwyth a phractisau eraill wedi chwarae rol allweddol fel rhan o chonsortiwm i arbed y cyfleusterau post-mortem milfeddygol yn Aberystwyth sy’n gwneud gwaith ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r ganolfan, yn ogystal â chynlluniau Prifysgol Aberystwyth i ddtatblygu hyfforddiant milfeddygol fel rhan o Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn cynnig cyfle cyffrous iawn.
“Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i gefnogi sefydlu canolfan hyfforddiant milfeddygon i Gymru yn Aberystwyth ac mi fydd hyn yn flaenoriaeth ar ôl etholiadau mis Mai.
“Byddai coleg milfeddygol llawn yn Aberystwyth, mewn partneriaeth gyda phractisau lleol, yn hwb mawr i’r brifysgol a’r diwydiant amaeth yn yr ardal.”