(LLUN - mae technoleg ar gael sy'n galluogi i geblau gael eu claddu o dan y ddaear yn gyflym a heb fawr o darfu)
"Ynni adnewyddadwy - ie; peilonau anferthol - na;" dyna farn Cynghorwyr Plaid Cymru yn Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin.
Mae heriau newid yn yr hinsawdd yn cael eu cydnabod gan awdurdodau lleol Sir Ceredigion a Chaerfyrddin a mae’r ddau gyngor wedi datgan argyfyngau hinsawdd ac yn nodi bod effeithiau newid yn yr hinsawdd eisoes i'w profi yn lleol.
Mae Plaid Cymru Ceredigion a Chaerfyrddin yn credu bod yn rhaid inni gyd gefnogi cynhyrchu ynni o amrywiol ffynonellau cynaliadwy megis ynni'r llanw, y gwynt, a'r haul a mae symud i ffwrdd o danwydd ffosil ac yn croesawu mentrau sy'n harnesi ein adnoddau naturiol gwyrdd. Y mae mwy o baneli solar, tyrbinau gwynt, ac ati yn golygu bod yn rhaid i'r grid trydan newid a mae rhaid datblygu cysylltiadau newydd er mwyn cario'r ynni o'r ffynonellau i'n tai, pentrefi a threfi.
Y model gorau ar gyfer ynni adnewyddadwy yw ei fwydo i grid yn yr ardal fel bod pobol leol yn gallu defnyddio'r ynni y mae nhw'n ei weld yn cael ei gynhyrchu ar y mynydd, yr afon neu adeilad lleol. Yn anffodus tan bod y systemau hynny yn weithredol mae rhaid cario'r trydan o'r ffynhonell a'i allforio i ardaloedd eraill ar draws Cymru neu Loegr. Yn siroedd Ceredigion a Chaerfyrddin mae ffermydd gwynt newydd ar y gweill ac y mae'r cwmniau cynhyrchu'r trydan yn bwriadu cario'r trydan o dyrbeini/ffermydd solar ar beilonau enfawr ar draws y ddwy sir.
Er yn croesawu ynni adnewyddadwy y mae Cynghorwyr Plaid Cymru yn galw ar y cwmniau yma i ail feddwl eu cynllun i osod peilonau ar hyd darnau o Geredigion a Chaerfyrddin.
"Mae rhaid i ddatblygwyr osod ceblau o dan y ddaear fel rhan o’u rhwydwaith ddosbarthu," meddai Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Bryan Davies. "Rwy'n cefnogi'n llwyr y bwriad i ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Ngheredigion gan fanteisio ar ein hadnoddau naturiol gan gynnwys dŵr, gwynt, a haul y sir.”
“Ar y funud mae'r pwyslais ar ddefnyddio ynni'r gwynt a'r rheidrwydd i ddefnyddio tyrbinau gwynt ond gallai ddim cytuno gyda'r bwriad i osod peilonau ar hyd darnau helaeth o'r Sir. Fel fy ngyfaill Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin mae fy nghais i’r cwmni yn syml. Mae angen iddyn nhw ymrwymo i roi'r ceblau hyn o dan ddaear."
Medd Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cynghorydd Price:
“Mae trigolion ar draws Sir Gaerfyrddin yn parhau i fod yn unedig yn eu gwrthwynebiad i’r peilonau hyn ac fel Arweinydd y Cyngor rwy’n sefyll gyda nhw. Rydyn ni’n gwybod bod rhoi’r ceblau hyn o dan y ddaear nid yn unig yn bosibl, ond bod gennym ni gwmni yma yn Sir Gaerfyrddin sy’n gallu gwneud yn union hynny.”
“Mae fy nghais i Green GEN yn syml. Mae angen iddyn nhw ymrwymo i danddaearu’r ceblau hyn."
Dywedodd y Cynghorydd Eryl Evans, sydd yn cynrychioli ardal Llangybi,
"Mae'n rhaid cario'r ynni hwnnw o Geredigion yn y ffordd orau posib. Rwy'n falch bod cynifer o ardalwyr wedi cysylltu gyda fi a gyda Plaid Cymru i fynegi eu pryderon am y peilonau anferth yma. Rwy'n deall ac yn cydymdeimlo gyda'r pryderon hynny. Dydw i ddim chwaith yn gweld ffermwyr yr ardal yma yn barod i weld peilonau anferth ar draws eu caeau. Mi fydd hefyd yn cael effaith ar y diwydiant ymwelwyr wrth sarnu ein golygfeydd godidog."
Wedi gweld cwmni lleol yn dangos sut y gellid claddu ceblau y mae Eryl Evans yn grediniol mai dyma'r ffordd ymlaen er mwyn amddiffyn y tirlun tra'n cynhyrchu ynni adnewyddadwy.
"Gallai tyrbinau fod gyda ni am flynyddoedd a nawr yw'r amser i sicrhau y cynllun gorau ar gyfer Ceredigion a bod hwnnw yn gynllun sydd ddim yn effeithio’n negyddol ar ein hardaloedd."
Esboniodd y Cynghorydd Keith Henson, aelod Cabinet Ceredigion sydd â chyfrifoldeb dros Reoli Carbon,
"Mae'n dda gweld bod mwy o ynni adnewyddadwy yn mynd i gael ei gynhyrchu yn ein sir ond mae angen gwarchod ein tirlun a'n bywyd gwyllt hefyd. Mae yna opsiynau heblaw peilonau - mae amrywiol ffyrdd o gladdu ceblau er enghraifft - felly mae'n rhaid i ni wasgu ar gwmniau cynhyrchu a chludo trydan i danddaearu ceblau i gyd ar draws Ceredigion a Chaerfyrddin."
Dangos 1 ymateb