Ymweliad yn amlygu pwysigrwydd cefnogi sefydliadau gwledig

loading
  • Elin a Rhun tu allan i brosiect adfywio'r Hen Goleg

  • Elin a Rhun gyda'r Cyng. Bryan Davies a Geraint Thomas, perchennog y Moody Cow

  • Elin a Rhun yn Ysgol Milfeddygol Prifysgol Aberystwyth

 

Ymwelodd Elin Jones AS a Rhun ap Iorwerth AS â nifer o brosiectau buddsoddi mawr yng Ngheredigion, ac mae pob un ohonynt yn chwarae rhan bwysig wrth wella ffyniant economaidd y sir.

Cafodd yr aelodau etholedig daith o amgylch prosiect yr Hen Goleg ar y promenâd, yna aethant i Ysgol Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth. Yn y prynhawn bu iddynt gwrdd â gyda Geraint Thomas, perchennog busnes y Moody Cow yn Llwyncelyn i weld eu cyfleusterau presennol, clywed am eu prosiectau newydd a dysgu sut maent wedi gwneud defnydd effeithiol o ynni adnewyddadwy.

Dywedodd Elin Jones AS: "Roedd yn wych cael y cyfle i gwrdd â rhai o fyfyrwyr astudiaethau milfeddygol cyntaf Prifysgol Aberystwyth, a gweld y cyfleusterau a'r gwaith gwych y mae'r Brifysgol yn ei wneud i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr milfeddygol."

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS: "Roedd taith datblygiad yr Hen Goleg yn Aberystwyth yn gyfle i ni ddysgu mwy am y gwaith cadwraeth aruthrol sy'n cael ei wneud i greu atyniad ac adnodd heb ei ail ar gyfer y dref ac i Geredigion.

Nid yn unig y bydd y datblygiad hwn yn diogelu adeilad rhestredig sydd â chymaint o bwysigrwydd yn hanes dinesig Cymru, bydd hefyd yn dod â chyfleoedd cyflogaeth pellach, yn denu mwy o ymwelwyr, ac yn cynnig cyfleusterau cymunedol unigryw a fydd i gyd yn chwarae rhan wrth hwyluso twf economaidd cynaliadwy yn y rhanbarth.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r tîm yn Siop a Fferm y Moody Cow am y croeso cynnes. Mae'r busnes bellach yn cyflogi dros 100 o staff ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r economi a'r gymuned leol. Mae'r ffordd y mae Chris a Geraint wedi mynd ati i ddatblygu eu busnes yn ofalus yn golygu bod eu safle a'u cyfleusterau yn boblogaidd ymhlith pobl leol ac ymwelwyr, ac mae eu defnydd o ynni adnewyddadwy yn eu model busnes yn rhagorol.”


Dangos 1 ymateb

  • Branwen Davies
    published this page in Newyddion 2025-02-17 21:04:52 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.