Diwrnod pwysig i'n gwasanaeth iechyd

Ar ddydd Iau, 24 Mawrth, ymwelodd y Gweinidog Iechyd a Cheredigion er mwyn lansio dwy brosiect bwysig.

Yn y bore, ym Mhrifysgol Aberystwyth, lansiwyd y Ganolfan Ragoriaeth ym Meddyginidaeth Wledig, a fydd yn helpu grwp cydweithredol y canolbarth i adeiladu perthynas gyda chyrff proffesiynol ac ymchwilwyr arbenigol wrth gynllunio dyfodol ein NHS. Yn y prynhawn, aeth y Gweinidog i Dregaron i lansio prosiect Cylch Caron, fydd yn dod a sawl gwasanaeth ynghyd - ysbyty, gofal cynradd, llety a nifer o gyfleusterau eraill o fewn un adeilad modern.

Lansiad Cylch Caron

Chwaraeodd Elin Jones ran bwysig yn y datblygiadau hyn, fel y dywedodd y Gweinidog yn ei sylwadau. AC Ceredigion drefnodd y cyfarfod cychwynol rhwng y Gweinidog a grwp o feddygon lleol, a berswadiodd Llywodraeth Cymru o'r angen am ddechrau o'r newydd wrth gynllunio dyfodol Bronglais a'r NHS yng Nghymru wledig. Ers hynny, comisiynwydd Adolygiad Longley, a arweiniodd at sefydlu grwp cydweithredol y canolbarth, a chamau gwirioneddol ymlaen fel agor 12 o welyau ym Mronglais a hysbysebu swyddi newydd arbenigol yn nhriniaeth y galon a meysydd eraill.

Yn Nhregaron bu Elin, ynghyd a'r cynghorydd Catherine Hughes (yn y llun) ar flaen y gad yn y frwydr i rwystro'r Bwrdd Iechyd rhag cael gwared ar gyfleusterau ysbyty o'r cylch yn llwyr yn 2006. Nawr, bydd prosiect Cylch Caron yn cymryd lle'r ysbyty, a bydd yn cynnwys 6 gwely NHS, unedau preswyl ac ystod eang o wasanaethau.

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.