Mae Elin Jones wedi rhoi ei chefnogaeth i ymgyrch Chymdeithas Alzheimers dros fargen deg i bobl gyda dementia, wrth i ffigurau ddatgelu fod tua 1,217 o bobl yng Ngheredigion yn dioddef o'r cyflwr. Mae'r AC wedi cwrdd gyda chynrychiolwyr o'r Gymdeithas Alzheimers i drafod eu hymgyrch '45000 rheswm' dros strategaeth ddementia gynhwysfawr i Gymru.
Mae gan Blaid Cymru gynlluniau pendant i gael gwared ar daliadau gofal cymdeithasol i bobl sydd a dementia.
Mae rhywfaint o ofal dementia yn cael ei ystyried ar hyn o bryd fel 'gofal cymdeithasol' ac hwyrach byddai'n rhaid talu, tra mae gofal iechyd am ddim.
Meddai Elin Jones, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru ac AC Ceredigion;
"Mae'n hollbwysig fod ein cymdeithas yn trin pobl sydd a dementia yn deg; maent yn nifer sylweddol o bobl, ac yn gyfran fydd yn cynyddu wrth i'n poblogaeth heneiddio.
"Mae Cymdeithas Alzheimer's yn llygad eu lle wrth dynnu sylw at y sialensau sydd ynghlwm wrth hyn, gyda'u ymgyrch '45000 rheswm'.
"Mae'n hen bryd gweithredu. Bwriad Plaid Cymru, dros y bum mlynedd o'r tymor cynulliad nesa, y bydd taliadau nyrsio a gofal cymdeithasol ar gyfer pobl gyda dementia yn cael eu diddymu.
"Ar hyn o bryd mae gan ddioddefwyr o wahanol gyflyrrau, fel canser a dementia, hawl i gwahanol safon o gymorth gan y wladwriaeth. Gall person sydd a chancr ddisgwyl y bydd y rhan fwyaf o'r gofal am ddim, tra y gall berson sy'n cael diagnosis o ddementia orfod mynd trwy brawf modd a thalu am gyfran sylweddol o'u gofal.
"Rwy'n benderfynol o wneud y sefyllfa yn fwy teg. Byddai llywodraeth wedi ei arwain gan Blaid Cymru yn darparu gofal personol am ddim i'r henoed a phobl gyda dementia. Rhaid gwireddu'r contract gymdeithasol gyda phobl sydd wedi gweithio drwy eu bywydau, wedi talu eu trethi ac nawr angen gofal; addewid Plaid Cymru yw darparu'r gofal hynny a chael gwared ar y rhwystrau ariannol."