Elin Jones AS yn annog pawb i leisio eu barn ar ddyfodol gofal Ysbyty Tregaron

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi agor proses ymgysylltu ar newid ofal Ysbyty Tregaron i fodel mwy cymunedol, ac mae Elin am weld cymaint o bobl â phosib yn ymateb iddo.

Y bwriad yw i gau’r naw gwely sydd eisoes yn Ysbyty Tregaron, gan fod y model staffio yn fregus. Mae’r Bwrdd Iechyd am ddefnyddio yr un staff i ddarparu gofal i mwy o gleifion yn eu cartrefi. Mae’r broses ymgysylltu ar agor hyd y 29 o Awst. Mae modd rhoi adborth arlein drwy’r wefan; bydd sesiwn galw heibio yn y Neuadd ddydd Mercher 21 Awst rhwng 2-7pm, a digwyddiad rhitiol dros zoom 6pm ddydd Iau y 22 Awst.

Dywedodd Elin Jones AS:  “Dyma’r cyfle euraidd i chi leisio eich barn ar sut credwch chi fydd y newidiadau yma’n effeithio arnoch. Mae wedi bod yn sioc i glywed y newyddion yma mis diwethaf gan y Bwrdd Iechyd, gan taw’r bwriad oedd i gadw’r 9 gwely yn yr Ysbyty i fynd hyd nes bod gwelyau ‘step-up, step-down’ ar gael drwy brosiect Cylch Caron.

Gwyddom fod recriwtio yn un o brif heriau’r Bwrdd Iechyd, ac yng Ngheredigion ehanach hefyd ar hyn o bryd. Mae hyn yn rhoi rhagor o bwysau ar y staff sydd yno, felly mae’n ddealladwy fod angen adolygu’r sefyllfa ond mae’n hynod o bwysig fod hyn ddim yn digwydd ar draul anghenion y cleifion a’u teuluoedd. Mae’r broses ymgysylltu yma'n rhoi’r cyfle gorau i godi unrhyw bryderon neu gwestiynau sydd ganddoch am y newidiadau yma, felly dwi’n erfyn ar bawb yn y gymuned i ymateb.”

 

Rhowch eich barn drwy wefan Bwrdd Iechyd Hywel Dda.


Dangos 1 ymateb

  • Branwen Davies
    published this page in Newyddion 2024-08-16 15:45:25 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.