Yr ymdrech olaf un i achub gwasanaeth hanfodol Bwcabus

Mae gwleidyddion Plaid Cymru wedi gwneud un ymdrech olaf i annog Llywodraeth Cymru i achub gwasanaeth hanfodol y Bwcabus Fflecsi, sydd i fod i ddod i ben 31 Hydref 2023.

Mae’r Bwcabus Fflecsi (Bwcabus gynt) wedi bod yn rhedeg ers 14 mlynedd ac wedi gwasanaethu rhannau gwledig o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. I’r trigolion hynny sydd heb geir, neu sydd heb fynediad at brif rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, mae’r Bwcabus yn darparu gwasanaeth hanfodol i gyrraedd pentrefi a threfi eraill ar gyfer gwaith, siopa a thriniaeth feddygol.

Er hynny, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiwedd mis Medi 2023 y byddai’r cyllid ar gyfer y gwasanaeth yn cael ei dorri – gan roi dim ond 4 wythnos o rybudd i ddefnyddwyr a gwleidyddion ynghylch torri’r gwasanaeth yn gyfan gwbl. Mae’r cyhoeddiad hwn wedi arwain at anrhefn yn lleol ac mae llawer o ddefnyddwyr rheolaidd y bysus yn ofni’r effaith y bydd torri’r gwasanaeth yn ei chael ar eu gallu i fynychu apwyntiadau meddygol, i deithio i'r gwaith ac ymrwymiadau eraill.  

Ddechrau mis Hydref yn y Senedd, cyflwynodd Cefin Campbell, Aelod Senedd Plaid Cymru dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, gwestiwn brys yn y Senedd i annog Llywodraeth Cymru i adfer y cyllid ar gyfer y gwasanaeth. Yn y cyfamser, mae deiseb yn gwrthwynebu diwedd gwasanaeth y Bwcabus wedi ennill dros 1,750 o lofnodion.  

Amlygwyd cryfder teimladau pobl ynghylch colli’r gwasanaeth ymhellach mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llandysul yr wythnos ddiwethaf, a drefnwyd gan Elin Jones AS a Ben Lake AS. Roedd bron i gant o drigolion, ynghyd â chynghorwyr lleol, yn bresennol i drafod y sefyllfa a rhannwyd profiadau o sut y bydd colli’r gwasanaeth gwerthfawr hwn yn effeithio ar eu bywydau.  

Cafodd adroddiadau emosiynol eu rhoi gan bobl oedd wedi defnyddio’r bysus ers blynyddoedd maith ac a oedd yn dibynnu ar y gwasanaeth i gyrraedd apwyntiadau meddygol a ffisiotherapi wythnosol. Dywedodd eraill y byddai’n rhaid iddynt ailystyried eu hymrwymiadau i'w swyddi oherwydd y penderfyniad sydyn i ddileu’r gwasanaeth.  

Trosglwyddwyd profiadau’r cyfarfod yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru yn y Senedd yr wythnos hon, wrth i Cefin Campbell AS herio’r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, ar ddyfodol y Bwcabus.  

Gan alw eto ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y penderfyniad, fe bwysodd hefyd am gyfarfod i drafod y sefyllfa ymhellach. Dywedodd Mr Campbell:  

“Yr hyn a ddaeth i'r amlwg i ni’r noson honno yn Llandysul oedd yr effaith niweidiol y bydd cael gwared ar y gwasanaeth yn ei chael ar fywydau pobl go iawn. Nid e-byst oedd y rhain, ond tystiolaeth fyw o sut y bydd pobl sy’n dioddef o epilepsi methu â mynychu clinigau; pobl sy’n ddibynnol ar ffisiotherapi yn wythnosol methu â mynychu eu clinigau a’u hysbytai, yn methu gwneud y siop wythnosol; roedd rhai yn sôn am orfod rhoi’r gorau i'w swyddi gan na fyddent yn medru cyrraedd eu gweithle.  

Felly, fe wnaethoch chi’r penderfyniad i ddod â’r gwasanaeth hwnnw i ben gyda phedair wythnos o rybudd yn unig. Sôn am weld pobl ar ymyl y dibyn wrth iddyn nhw orfod cynllunio dyfodol eu hunain.” 

 

Wrth ymateb i gwestiwn Mr Campbell, ychwanegodd Elin Jones AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Geredigion: 

“Roedd y cyfarfod cyhoeddus yn Llandysul yr wythnos ddiwethaf yn adlewyrchu cryfder y teimlad yn lleol tuag at y gwasanaeth amhrisiadwy mae Bwcabus yn ei ddarparu i gynifer o drigolion – hen ac ifanc. Mae colli’r gwasanaeth – a hynny ar fyr rybudd – yn bryder mawr yn lleol, ac mae perygl gwirioneddol y bydd llawer o drigolion yn cael eu gadael heb unrhyw opsiynau eraill wrth i'r gwasanaeth hwn gael ei dorri - gyda thacsis yn brin ac yn ddrud a dim darpariaeth o unrhyw fathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus.  

Rydw i'n parhau i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr, cynghorwyr, sefydliadau trafnidiaeth gymunedol a Llywodraeth Cymru yn y gobaith y gellir dod o hyd i ateb.” 

 

Yn ei ymateb, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters AS: 

“Rydw i'n gweld gwerth gwasanaeth y Bwcabus, ac mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i'r gwasanaeth Fflecsi yr ydym bellach yn ei dreialu mewn rhannau eraill o Gymru, felly does dim angen unrhyw argyhoeddiad o werth y model arnaf. Dydw i ddim yn meddwl bod nifer y defnyddwyr yn uchel iawn. Mae’n ddiddorol bod 100 o bobl wedi dod i'r cyfarfod; byddai’n ddiddorol gwybod faint o’r rheiny oedd yn ei ddefnyddio’n rheolaidd. Yn aml, dydy pobl ddim eisiau colli gwasanaeth, ond dydy’r un bobl ddim yn cefnogi’r gwasanaeth chwaith. Felly rydw i'n meddwl bod angen i ni gyd feddwl o ddifri sut gallwn annog mwy o bobl i ddefnyddio gwasanaethau bysus wrth edrych i'r dyfodol.  

Rydyn ni’n ariannu gwasanaeth TrawsCymru yn sylweddol drwy Geredigion, sy’n wasanaeth rhagorol â bysus trydan, modern sy’n rhad i'w defnyddio ac maen nhw’n boblogaidd iawn. Felly, rydyn ni’n buddsoddi llawer mewn gwasanaethau bysus yng nghefn gwlad Cymru. Yn drist iawn, oherwydd y sefyllfa gyllido sy’n ein hwynebu yn y tymor byr, doedden ni ddim yn gallu llenwi’r bwlch a adawyd pan dynnwyd cyllid yr UE oddi wrthon, ac mae arnaf ofn nad oes ateb hawdd i'r ffaith honno.” 

 

Gwyliwch y ddadl yn y Senedd drwy ddilyn y ddolen hon: Fflecsi Bwcabus_Senedd Cymru_25.10.2023 - YouTube

 


Dangos 1 ymateb

  • Elain Roberts
    published this page in Newyddion 2023-10-26 15:14:12 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.