Aelod Hŷn C.Ff.I Ceredigion yn cynrychioli’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr yn San Steffan

080518_WelshAffairs_YFC.jpg

Ar 8 Mai, croesawodd y Pwyllgor Materion Cymreig gynrychiolwyr o Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru i gyflwyno tystiolaeth ar ddyfodol ffermio ac amaethyddiaeth yng Nghymru yn y tymor hir.

Bydd canlyniadau trafodaethau Brexit yn siwr o gael effaith ar y sector amaeth yng Nghymru, a rhoddodd y sesiwn dystiolaeth yma blatfform i aelodau’r C.Ff.I rannu eu barn a chynrychioli y genhedlaeth nesaf o ffermwyr. Rhoddodd aelodau’r C.Ff.I fewnwelediad i’r Pwyllgor Materion Cymreig ar yr hyn y maent yn ei deimlo yw’r heriau a’r cyfleoedd fydd yn wynebu ffermwyr ifanc yn ystod y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd. Pwysleisiodd yr aelodau hefyd pa mor bwysig yw datlbygu polisi amaethyddol newydd fydd yn caniatau i fusnesau amaethyddol fod yn gynhyrchiol, broffidiol ac yn flaengar ar ôl Brexit.

Un o’r aelodau oedd yn cynrychioli’r C.Ff.I oedd Aelod Hŷn Ceredigion a Chymru ar gyfer 2018 sef Cennydd Jones o Bontsian. Wedi graddio mewn amaethyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth, mae Cennydd bellach yn gweithio fel darlithydd i Goleg Sir Gâr ac mae hefyd yn Is-Gadeirydd ar Glwb Ffermwyr Ifanc Pontsian.

Yn ystod y sesiwn dystiolaeth pwysleisiodd Cennydd Jones pwysigrwydd parhau â’r rhaglen ‘Cyswllt Ffermio’ yng Nghymru ar ôl Brexit.

Dywedodd Mr Jones:

“Mae ‘Cyswllt Ffermio’ yn adnodd gwerthfawr iawn i’r sector amaeth yng Nghymru. Mae’n darparu cefnogaeth i unigolion ac mae’n rhoi unigolion sydd eisiau dilyn gyrfa ym myd amaeth mewn cyswllt ag unigolion sydd berchen yr offer a’r peirianna angenrheidiol.

“Mae’r rhaglen hefyd yn rhoi diweddariadau i ffermwyr ar y datblgiadau diweddaraf ym maes technoleg ac ymchwil gwyddonol sy’n canaiatu iddyn nhw ddatblygu ffyrdd mwy effeithiol a blaengar o weithio.

“Mae Cyswllt Ffermio yn gyflogwr mawr yn ardaloedd gwledig y gorllewin hefyd, yn cyflogi nifer fawr o bobl ifanc a fyddai fel arall yn gorfod ystyried symud i chwilio am waith yng Nghaerdydd neu thu hwnt.”

Dywedodd Ben Lake AS, aelod o’r Pwyllgor Materion Cymreig:

“Mae’n bwysig ein bod ni’n cymryd pob cyfle posib i wrando ar yr unigolion hynny sy’n mynd i gael eu heffeithio fwyaf gan unrhyw newidiadau i’r polisi amaeth. O ganlyniad, roedd yn fraint cael croesawu cynrychiolwyr C.Ff.I Cymru i San Steffan ac i wrando ar eu cyfraniadau doeth yn ystod y sesiwn dystiolaeth.

“Roeddwn i’n arbennig o falch i glywed barn ffermwr ifanc o Geredigion. Fel nifer o ardaloedd gwledig ar draws Cymru, mae bywiogrwydd y sector amaeth yng Ngheredigion yn allweddol os ydym ni am gadw gafael ar ein pobl ifanc. Mae’n bwysig felly ein bod ni wir yn mynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu yn nhermau dilyniant yn y diwydiant ffermio er mwyn gofalu bod gan ein ffermwyr ifanc ddyfodol disglair.”

Ochr yn ochr â’r rhaglen Cyswllt Ffermio mae Cennydd Jones hefyd yn gefnogol o’r cynllun Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc. Mae’r cynllun £6m, gafodd ei gadarnhau gan Simon Thomas AC fel rhan o gytundeb y gyllideb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, ar agor am geisiadau ers 9 Mai 2018. Bydd y cynllun yn rhoi cymorth ariannol i unigolion llwyddiannus sydd am sefydlu busnes neu ddatblygu busnes sydd eisoes yn bod.

Dywedodd Mr Jones:

“Dwi’n croesawu unrhyw gynllun sy’n annog ac yn cefnogi ffermwyr ifanc wrth iddyn nhw drio sefydlu busnes amaethyddol. Gyda’r gefnogaeth iawn, ac ochr yn ochr â chynlluniau megis y cynllun Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc, rwy’n ffyddiog y bydd ein ffermwyr ifanc yn dod â’r blaengarwch, y syniadau newydd a’r egni sydd ei angen ar y diwydiant.”

Am ragor o wybodaeth am y cynllun Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc, cliciwch yma.

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.