Cefndir
- Wedi byw yn Lladyfriog ers blynyddoedd lawer
- Wedi gweithio fel athro yn Ysgol Gyfun Emlyn am dros 30 mlynedd
- Wedi bod yn Gynghorydd Cymuned ers dros 20 mlynedd
-
Yn aelod o nifer o bwyllgorau a mudiadu lleol, megis
- Warden Eglwys Lladyfriog
- Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn
- Elusen iechyd meddwl HUTS
- Pwyllgor Henoed Castell Newydd Emlyn ac ADPAR
- Pwyllgor Treialon Cwn Defaid Castell Newydd Emlyn
- Yn cynnal dosbarthiadau Cymraesg i ddysgwyr
- Yn brido gwartheg Henffordd
Pam pleidleisio dros Wyn?
"Dwi am ymgeisio eto dros Blaid Cymru i sefyll etholiad Cyngor Sir Ceredigion ym mis Mai 2022. Ces fy ethol yn 2017 a dwi'n awyddus i barhau fel Cynghorydd Sir dros ward Llandyfriog.
Mae’r gwaith o fod yn Gynhorydd wedi newid yn sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn dilyn sgil y pandemig. Mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn i’n gwasanaethau megis gofal, iechyd, ysgolion a gwastraff. Mae’n rhaid canmol trigolion Ceredigion am gadw at y cyfyngiadau a chadw lefel y cofid gyda’r isaf yng Nghymru.
Rydym wedi gweld ffordd newydd o weithio yn ein cymunedau, gyda gweitho arlein o adref wedi dod yn beth cyfarwydd erbyn hyn. Mae cadw ein pobl ifanc yn ein cymdeithas wedi dod yn broblem enfawr wrth i brisiau tai godi’n sylweddol. Mae hefyd wedi bod yn gyfnod heriol i fusnesau’r economi, yn dilyn cyfnod clo ac hefyd Brexit."
Blaenoriaethau Wyn
- Helpu cymunedau i symud ymlaen ar ôl tair mlynedd digon anodd yn ystod y cyfnod clo.
- Helpu pobl ifanc lleol i gael swyddi a thai yn eu pentrefi cynhenyd.
- Helpu’r henoed sydd wedi hunan ynysu am gyfnodau hir.
- Gwella’r gwasanaeth band eang yn ein cymunedau gan fod llawer yn gweithio o adre.
- Parhau i atal ceir yn gyrru’n gyflym drwy ein pentrefi.
- Hybu ein cymunedau i ail gylchu eu gwstraff ac i atal tipio anghyfreithlon.
Manylion cyswllt |
[email protected] |
01239 711670 |
Dangos 1 ymateb