Daeth 70 o berchnogion busnes lleol, cynrychiolwyr sefydliadau a rhanddeiliaid at ei gilydd i Glwb Rygbi Llanbedr Pont Steffan ar nos Gwener, 26 Gorffennaf i drafod dyfodol Llanbedr Pont Steffan.
Ymunodd panel o siaradwyr gwadd â Ben Lake AS, sef Rob Basini, Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) Cymru; Bronwen Raine, Cyfarwyddwr Antur Teifi a'r Cyng. Clive Davies, Cynghorydd Sir a Chynghorydd Tref Aberteifi.
Mae Llanbedr Pont Steffan, fel nifer o drefi gwledig eraill ledled Cymru, wedi wynebu heriau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac maent yn parhau i wynebu pwysau cynyddol. Yn dilyn arolwg o aelodau'r Ffederasiwn Busnesau Bach a busnesau a rhanddeiliaid ledled y wlad, canfuwyd taw’r prif heriau i’r stryd fawr oedd y bygythiad o fanwerthu ar-lein, siopau gwag, ardrethi busnes a datblygiadau busnes ar gyrion y dref. Nodwyd tri tueddiad cymdeithasol hefyd, y canfuwyd eu bod yn effeithio ar drefi ledled y wlad:
- Newidiadau cymdeithasol ac yn nemograffeg cymdeithas
- Trefoli i ddinasoedd a chlystyru
- Datblygiadau technolegol a newidiadau mewn patrymau defnyddio
Galwodd Ben Lake AS y cyfarfod yn Llanbedr Pont Steffan gyda'r nod o glywed syniadau creadigol, ymarferol ac arloesol gan y gymuned ar gyfer y dref, a chlywed am enghreifftiau o adfywio llwyddiannus mewn trefi eraill, fel Aberteifi.
Yn siarad ar ôl y digwyddiad dywedodd Ben Lake:
“Mae Llanbedr Pont Steffan yn dref ag iddi hanes balch, ond mae’n dref sy’n llawn potensial hefyd. Mae’n gartref i fusnesau annibynnol o safon, ac mae yma sawl safle diwylliannol a threftadaeth o bwys cenedlaethol. Mae’n amlwg bod y gymuned leol yn awyddus i weithio gyda’i gilydd i oresgyn yr heriau niferus sy’n wynbeu’r dref, ac i warchod y rhinweddau pwysig hynny sy’n unigryw i’r dref.”
Un syniad a drafodwyd yn y cyfarfod oedd cyflogi Rheolwr Canol Tref Digidol a datblygu strategaeth ganol tref ar gyfer Llanbedr Pont Steffan. Byddai hyn yn ymdrech gydweithredol yn tynnu busnesau unigol, y Siambr Fasnach, sefydliadau lleol a rhanddeiliaid at ei gilydd, gan greu gweledigaeth a chynllun gweithredu cydlynol ar gyfer y dyfodol.
“Mae trefi ledled y sir a thu hwnt, wedi gweld cyfnod o newid sylweddol na fu heb ei anawsterau. Mae newidiadau i arferion siopa pobl wedi bod yn arbennig o heriol i hen drefi marchnaf, ond mae’n amlwg bod gan fusnesau, grwpiau cymunedol, y Brifysgol ac awdurdodau lleol yr awydd i gydweithio’n agosach i wireddu potensial y dref fel ei bod yn gallu deuny mwy o bobl i’r stryd fawr.”