Mae arddangosfa a noddwyd gan Ben Lake yn dangos hanesion ffoaduriaid yng Nghymru wedi agor yn San Steffan yr wythnos ddiwethaf.
Mae ‘Refugees from National Socialsim in Wales: learning from the past for the future’ wedi ei chreu gan Dr Andrew Hammel a Dr Morris Brodie o Ganolfan Astudio Symudedd Pobl Prifysgol Aberystwyth, ynghyd a ffoaduriaid a’r rhai sy’n cynorthwyo’r ffoaduriaid i ailgartrefu yng Nghymru.
Mae’r arddangosfa yn olrhain hanes ffoaduriaid yng Nghymru o’r 1930au hyd heddiw. Mae’n rhoi hanes y rhai wnaeth ddianc o Sosialaeth Genedlaethol yng Nghanol Ewrop i chwilio lloches, gan gyffelybu gyda ffoaduriaid presennol. Mae’r arddangosfa yn cynnwys gwaith celf, gwrthrychau, ffotograffau a llenyddiaeth gan ffoaduriaid a’r rhai sydd wedi gweithio gyda nhw ar hyd y degawdau.
Cafodd yr arddangosfa a ddangoswyd gyntaf yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth ei chreu fel rhan o’r Imperial War Museums’ Second World War and Holocaust Partnership Programme ac fe’i hariannwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Wrth siarad yn agoriad yr arddangosfa ar y 24ain o Fai dywedodd Ben Lake AS: “Mae’n anrhydedd cael agor yr arddangosfa yn swyddogol a’ch croesawi chi i gyd yma i ddigwyddiad sydd eisoes wedi bod yn ddeuddydd arbennig, ac rwy’n ddiolchgar tu hwnt i Andrew Hammel a Morris Brodie am sicrhau bod hwn yn gweld golau ddydd. Roeddwn yn ffodus i ymweld â’r arddangosfa yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth a gweld pa mor bwerus oedd y darnau, a chredaf i mi ddweud bryd hynny er mor dda oedd gweld yr arddangosfa yn Aberystwyth roedd yn hynod bwysig dod a hi i San Steffan, nid yn unig er mwyn i’r gweledyddion ond hefyd er mwyn i gynulleidfa ehangach ddysgu’r hanes.”
Bu Lord Dubs, Arglwydd Llafur a chyn ffoadur yn ystod ei blentyndod, yn dwyn i gof ei hatgofion fel un o’r plant a achubwyd gan y dyngarwr Nicholas Winton, ar y Kindertransport yn 1939: “Cawsom groeso mawr ym mhentref bach, Llanwrtyd Wells. Roedd yn brofiad cryf, emosiynol, addysgiadol i fod yno. Mae yna lawr o atgofion sy’n cael eu hanghofio a’u colli, ond credaf ei bod yn bwysig i geisio cadw ein hatgofion o ddigwyddiadau ac os nad ydym yn gwneud pethau fel hyn byddant yn mynd i ebargofiant.
Dywedodd Dr Andrea Hammel ei bod yn ddiolchgar i’r sefydliadau a chyfranwyr amrywiol sydd wedi helpu i greu’r arddangosfa “Rydym yn ddiolchgar i’r sefydliadau amrywiol, gan gynnwys yr Imperial War Museum a’r Association of Jewish Refugees. Rwy’n falch iawn bod popeth wedi dod at ei gilydd heddiw ac yn edrych ymlaen at ei weld yng ngogledd Cymru ym mis Mehefin. Mae’n bwysig iawn i ni bod cyfraniadau yn yr arddangosfa gan ffoaduriaid sy’n byw yng Ngheredigion heddiw. Ffoaduriaid o Syria, Afghanistan a Kuwait.
Dangos 1 ymateb