Mae Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol Plaid Cymru yng ngorllewin Cymru wedi cyflwyno datganiad yn dilyn y llifogydd ar draws y rhanbarth y penwythnos hwn.
Yr wythnos hon bydd cynrychiolwyr lleol yn annog Llywodraeth Cymru a Phrydain i ariannu cynghorau lleol i gynnal asesiadau brys a gwaith trwsio ar gyfer isadeiledd cyhoeddus, yn ogystal ȃ darparu cefnogaeth i unigolion a effeithiwyd gan y llifogydd.
Bydd Ben Lake AS a Jonathan Edwards AS yn annog gweinidogion Llywodraeth San Steffan i fanteisio ar y gefnogaeth ariannol sydd ar gael drwy gronfa gefnogaeth yr UE.
Yn y Cynulliad Cenedlaethol i Gymru bydd yr Aelodau Cynulliad Adam Price, Helen Mary Jones ac Elin Jones yn gofyn am sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo awdurdodau lleol gyda Chynllun Brys Cymorth Ariannol.
Yn ôl y cynrychiolwyr lleol mae’n rhaid bod gan y cynghorau lleol sicrwydd llawn o’r arian sydd eu angen arnynt i ddelio ȃ chanlyniadau y llifogydd ac i atal niwed o’r fath yn y dyfodol, yn ogystal ȃ blaenoriaethu cymorth uniongyrchol i’r rhai mewn angen.
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd ACau ac ASau Plaid Cymru:
“Mae’r llifogydd a brofwyd ar draws gorllewin Cymru y penwythnos hwn yn ddigyffelyb gyda rhai yn datgan mai dyma’r llifogydd gwaethaf ers dros 30 o flynyddoedd.
“Yn y lle cyntaf hoffem estyn ein cydymdeimlad dwys ȃ theulu Corey Sharpling o Gastell Newydd Emlyn a gollodd ei fywyd yn drychinebus yn sgil y tywydd. Hefyd hoffem fynegi ein diolchgarwch a’n gwerthfawrogiad o weithwyr y sector gyhoeddus – staff yr awdurdod lleol a’n gwasanaethau brys – sydd wedi gweithio’n ddibaid i warchod cymunedau cyn gymaint ȃ phosib, gofalu ar ôl pobl fregus, a pharhau i ddelio gyda chanlyniadau heddiw.
“Fel cynrychiolwyr lleol dymunwn sicrhau ein hetholwyr ein bod yma i gynorthwyo ym mha bynnag ffordd a fedrwn. Rydym yn argymell trigolion i gysylltu yn y lle cyntaf ȃ’u hawdurdodau lleol sydd ȃ thimau ymroddedig wrth gefn i gynnig cyngor a chefnogaeth.
“Yn y cyfamser rydym yn ceisio am gefnogaeth Llywodraeth Cymru a Phrydain i’n cynorthwyo i ddelio gyda chanlyniadau lligofydd y penwythnos hwn.
“Mae angen ymrwymiad brys i ddarparu arian ar gyfer asesu diogelwch isadeiledd cyhoeddus megis ffyrdd a phontydd, yn ogystal ag arian i ymgymryd ȃ gwaith trwsio. Mae angen cefnogaeth ar ein cymuned amaethyddol ar ôl iddynt golli cyfarpar ac eiddo, ac mae nifer fawr o unigolion angen cymorth uniongyrchol i ddelio ȃ difrod i’w heiddo.
“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi y rhai sydd angen cymorth, ac unwaith eto rydym am ddweud bod ein drysau ar agor led y pen i unrhyw un sydd angen cymorth yn ystod y cyfnod eithriadol o anodd hwn.”