Mae Ben Lake AS yn annog Llywodraeth y DU i wella'r gefnogaeth les i unigolion ar ôl i ffigurau newydd ddatgelu bod bron i filiwn o bobl wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn ystod y pythefnos diwethaf.
Dywedodd Ben Lake AS nad oedd y system bresennol o Gredyd Cynhwysol yn ddigon hael na hyblyg i gefnogi’r miliynau o bobl sydd angen help yn ystod yr argyfwng hwn.
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio’r system dreth a lles i hybu cefnogaeth a sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl - trwy gyflwyno Incwm Sylfaenol Brys dros dro i bawb.
Dywedodd Ben Lake AS: "Mae'r newyddion syfrdanol bod bron i filiwn o bobl wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn ystod y pythefnos ddiwethaf yn tynnu sylw at raddfa yr argyfwng sy'n ein hwynebu - ac yn profi y tu hwnt i amheuaeth bod angen mwy o gefnogaeth ar bobl.
“Rhaid i Lywodraeth y DU wrando ar y rhai ohonom sydd wedi bod yn galw am wella'r gefnogaeth les yn sylweddol i helpu pobl drwy’r argyfwng.
"Mae Plaid Cymru wedi galw dro ar ôl tro am i'r Canghellor gyflwyno Incwm Sylfaenol Brys dros dro i bawb. Dyna'r ffordd symlaf i sicrhau bod gan bawb y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Mae'n amlwg bod y cynlluniau cadw swyddi a'r cynllun cefnogaeth i weithwyr hunangyflogedig yn methu â chynnwys pawb.
"Rhaid gwella'r system Credyd Cynhwysol ar frys fel ei bod yn fwy hael, hyblyg, ac ymatebol i anghenion pobl - gan gynnwys lleihau'r oedi cyn derbyn y taliad cyntaf. Ni ddylai pobl orfod aros wythnosau i gael yr help sydd ei angen arnynt nawr. "
Ychwanegodd Mr Lake: "Bydd gan bob Aelod Seneddol etholwyr sy'n ysu am fwy o help. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno rheolau sy'n mynnu pod pobl yn cadw pellter oddi wrth ei gilydd, ac mae hynny'n hollol iawn, ond mae'n rhaid iddynt nawr wneud mwy i amddiffyn eu hincwm.
"Nid yw'r diffygion yn system les y DU yn newydd - ond mae maint yr argyfwng hwn yn golygu bod yn rhaid mynd i'r afael â nhw ar frys fel nad oes miliynau o bobl yn cael eu gadael heb gefnogaeth ariannol."