Ben Lake AS yn cefnogi Diwrnod Gwisgo Het ar gyfer Ymchwil Tiwmor ar yr Ymennydd

Red_and_White_National_Wear_Red_Day_Facebook_Event_Cover_Photo.png

Bydd Ben Lake yr AS lleol yn gwisgo het ddydd Gwener, 26 Mawrth, i gefnogi Ymchwil Tiwmor ar yr Ymennydd (Brain Tumour Research).  Crëwyd #WearAHatDay gan Ymchwil Tiwmor ar yr Ymennydd, a dyma’r ymgyrch cenedlaethol fwyaf ac enwocaf i godi arian ac ymwybyddiaeth i diwmor ar yr ymennydd yn y DU. 

Esboniodd Ben Lake AS:

“Rwy’n falch i gefnogi Ymchwil Tiwmor ar yr Ymennydd ddydd Gwener ar gyfer #WearAHatDay. 

"Mae ymchwil i diwmorau ar yr ymennydd yn derbyn llai na 1% o wariant ymchwil cancr cenedlaethol yn y DU ond eto mae’n glefyd dinistriol, gyda dros 16,000 o bobl yn cael diagnosis yn flynyddol, mae’n lladd mwy o blant ac oedolion tan 40 oed na’r un cancr arall. 

"Rwy’n gobeithio drwy wisgo het a chyfrannu i’r elusen ar y 26ain o Fawrth y byddwn yn helpu i ariannu’r gwyddonwyr sy’n ymchwilio er mwyn dod o hyd i driniaethau mwy effeithiol ac yn y pendraw iachâd llwyr."

Am fwy o fanylion am y Ymchwil Tiwmor ar yr Ymennydd ewch i’w gwefan www.braintumourresearch.org

Wear_a_Hat_Day.png


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2021-03-25 13:59:20 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.