Mae ymgyrchwyr pensiwn gwragedd y 1950au yng Ngheredigion yn mynd a’u hachos i’r Tŷ Cyffredin
Gyda chymorth Ben Lake AS, bydd aelodau Merched yn Erbyn Anghyfiawnder Pensiwn y Wladwriaeth (WASPI) Ceredigion yn ymuno ag aelodau WASPI eraill o’r DU i gynnal sesiwn wybodaeth i ASau yn San Steffan ar y 4ydd o Fawrth.
Dywedodd Pamela Judge, Cydlynydd WASPI, sy’n trefnu’r digwyddiad:
“Mae’n flwyddyn newydd a Senedd newydd. Mae yna nifer fawr o ASau newydd ac mae angen iddynt ddeall ein hymgyrch, ac mae angen atgoffa’r hen Aelodau o’r anghyfiawnder a ddioddefwyd ac sy’n dal i gael ei ddioddef. Mae’r 5,000 o wragedd WAPSI Ceredigion ymhlith y 3.8 biliwn o wragedd a anwyd yn y 1950au yn y DU sydd wedi colli hyd at 6 mlynedd o Bensiwn Gwlad y maent wedi gwneud taliadau iddo. Rydym yn ffodus iawn yma bod ein AS yn ein cefnogi ni. Dyw gwragedd mewn rhannau eraill o’r wlad ddim mor lwcus.”
Dywedodd Mr Lake, a fydd yn llywyddu’r digwyddiad:
“Rwyf yn hapus i helpu gwragedd WASPI i godi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch bwysig hon gyda holl ASau y DU. Mae'r menywod hyn wedi gweithio gydol eu hoes ac wedi talu i’r Gronfa Yswiriant Cenedlaethol gan gredu y byddent yn gallu ymddeol yn 60, ond newidiwyd y rheolau ar y funud olaf.
“Ni ddylai hwn fod yn achos gwleidyddol, mater o degwch yw e. Mae’r contract cymdeithasol rhwng y gwragedd yma a’r wladwriaeth les wedi’i dorri. Byddaf yn annog ASau o bob plaid ar draws y DU i fynychu'r digwyddiad pwysig hwn yn San Steffan. Mae angen cael datrysiad trawsbleidiol i’w helpu cyn gynted â phosib.”