WASPI: Bod yn rhan o'r ymgyrch

WASPI_Ceredigion_Public_Meeting.jpg


CYFARFOD CYHOEDDUS YNG NGHEREDIGION GYDA BEN LAKE AS

  • 7pm, nos Fawrth, 28ain o Awst yng Nghanolfan Merched y Wawr, Aberystwyth
  • 7pm, nos Lun, 24ain o Fedi yn Neuadd Buddug, Llanbedr Pont Steffan

Pensions_Public_Meeting_5.png


Mae nifer o fenywod ar draws Ceredigion eisoes wedi gwneud cwyn swyddogol i’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae’n debygol y bydd sawl cam i’r broses cwynion.  Rhowch wybod os ydych chi wedi cyflwyno cwyn fel bod modd i ni gefnogi ein gilydd drwy’r ymgyrch.

Ffoniwch 01570 940333 i ddweud os ydych eisoes wedi cyflwyno cwyn.  Yna gall ymgyrchwyr WASPI Ceredigion rannu'r newyddion diweddaraf gyda chi yn ogystal â’ch hysbysu am y digwyddiadau y byddwn yn cynnal dros y misoedd nesaf!

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.