Os ydych yn flin gyda’r ffordd y cafodd menywod y 1950au eu trin ynglŷn â’u Pensiwn y Wladwriaeth, gwnewch gŵyn swyddogol i’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Dywedwch wrthynt os na chawsoch lythyr i ddweud bod eich Oed Pensiwn Statudol yn cynyddu.
Dywedwch wrthynt os fyddech wedi gwneud dewisiadau gwahanol pe byddech chi’n gwybod na fyddech yn derbyn eich pensiwn yn 60 oed.
Dywedwch wrthynt os ydych wedi colli blynyddoedd o’ch Pensiwn y Wladwriaeth.
LAWRLWYTHO LLYTHYR CWYN (TEMPLED):
Mae modd i chi lawrlwytho templed o lythyr yma a gallwch ei newid i fod yn addas ar gyfer eich amgylchiadau personol.
Cliciwch yma ar gyfer y llythyr
Os hoffech dderbyn copi o’r templed uchod yn y post, ffoniwch 01570 940333 neu llenwch eich manylion isod.
Os ydych angen cymorth i gwblhau’r llythyr, rhowch wybod i ni drwy gysylltu â’r rhif uchod a gallwn drefnu i ymgyrchwr WASPI lleol rhoi cymorth i chi. Mae arweiniad llawn ynglŷn â gwneud cwyn ar gael yma: http://waspi.co.uk/action