Mae Plaid Cymru wedi ailddatgan ei chefnogaeth i’r ymgyrch WASPI (Women Against State Pension Injustice) ac wedi cadarnhau y bydd yn rhoi iawndal i’r menywod hynny sydd ar eu colled o ganlyniad i’r polisi.
Mae ymgeisydd y Blaid yng Ngheredigion, Ben Lake, wedi dweud bod San Steffan wedi siomi menywod Cymru oherwydd y sgandal bensiynau, a bod miloedd o fenywod bellach yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd yn sgil ‘cyfathrebu gwael’ a ‘ffyrdd o weithredu aneffeithiol’.
Mae tua 195,000 o fenywod yng Nghymru wedi cael eu heffeithio, gan gynnwys pum mil yng Ngheredigion yn unig.
Wrth dalu teyrnged i’r ymgyrchwyr WASPI yn ei etholaeth, nododd Mr Lake fod Plaid Cymru yn gwbl ymroddedig i ddarparu iawndal i’r menywod hynny sydd ar eu colled yn sgil ‘cyfathrebu annigonol’ a ‘diffyg gweithredu effeithiol’ o ran y polisi.
Pwysleisiodd eto y byddai’n cefnogi addewid y Blaid a nodwyd yn yr ymgyrch petai’n cael ei ailethol, er mwyn ‘gwneud yn iawn am y cam mawr a wnaethpwyd â menywod Cymru gan San Steffan’.
Os caiff Ben Lake ei ailethol, mae wedi addo cefnogi’r mesur neu’r ddeddfwriaeth gyflwynwyd yn San Steffan a fyddai’n rhoi’r pensiwn sy’n ddyledus i fenywod a anwyd yn y 1950au, a rhoi stop ar yr anghydraddoldeb – a hynny yn llygad y ffynnon.
Dywedodd Ben Lake, ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion:
“Mae menywod Cymru wedi’u siomi gan San Steffan ac wedi gweld lleihad yn eu hawliau pensiwn, a newidiadau sylweddol i’w pensiynau gwladol, a hynny heb yn wybod iddynt. Canlyniad yr annhegwch hwn o ran y ffordd y mae’r mater wedi cael ei weithredu, a’r cyfathrebu annigonol, yw bod llawer yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd, ac yn wynebu’r tebygolrwydd o orfod byw mewn tlodi parhaus drwy eu hymddeoliad.
“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rwyf wedi cael y fraint o sefyll ochr yn ochr gydag ymgyrchwyr WASPI yng Ngheredigion – grŵp o fenywod ysbrydoledig sydd wedi ymgyrchu’n benderfynol ac egnïol dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy’n benderfynol o barhau i frwydro am gyfiawnder i’r menywod hyn.
“Mae Plaid Cymru’n gwbl ymrwymedig i ddarparu iawndal i’r menywod hyn sydd ar eu colled yn sgil ‘cyfathrebu annigonol’ a ‘diffyg gweithredu effeithiol’ o ran y polisi. Bydd y Blaid yn gwneud yn iawn am y cam gwael a wnaethpwyd â menywod Cymru gan San Steffan.
"Roedd y frwydr dros bensiynau menywod y 1950au yn un o’r materion cyntaf a godais yn San Steffan wedi i mi gael fy ethol, ac mae’n parhau i fod yn ymgyrch rwy’n teimlo’n angerddol drosti. Os caf fy ailethol, byddaf yn parhau i frwydro dros fenywod Cymru a gwneud yn iawn am y cam mawr y mae Llywodraeth Prydain wedi ei wneud â nhw.”