AS Ceredigion ‘yn rhyfeddu’ at ymgyrchwyr lleol Ceredigion

Ar ddydd Sadwrn 29ain Ebrill ymgasglodd merched a anwyd yn y 1950au o bob rhan o Geredigion i gyfarfod cyffredinol lleol ymgyrch WASPI (Gwragedd yn Erbyn Anghyfiawnder Pensiwn) ers y clo.    Roeddynt yn awyddus i glywed newyddion am eu cais am iawndal yn sgil y diffyg rhybudd a dderbyniwyd na fyddent yn derbyn eu pensiwn am 6 blynedd yn hwyrach na’r disgwyl.

Siaradodd Ben Lake AS a Pamela Judge, Cyd Cydlynydd Ymgyrch WASPI Ceredigion ac aelod o Bwyllgor Llywio Cenedlaethol WASPI yn ystod y cyfarfod.

“Rwyf wedi rhyfeddu at aelodau WASPI Ceredigion”, meddai Ben Lake.  “Mae eu dyfalbarhad a’u heffeithlonrwydd i sicrhau bod yr ymgyrch yn parhau yn un o brif faterion y Senedd yn ganmoladwy.  Rwy’n falch cynnig fy nghefnogaeth barhaus i’r achos.”

“Mae wedi bod yn ymgyrch hir ac nid yw drosodd eto”, ychwanegol Pamela Judge.  “Rydym yn bendant yn gwneud cynnydd.  Pum mlynedd yn ôl cofrestrwyd cwynion swyddogol gan gannoedd o ferched Ceredigion nad oeddynt wedi derbyn digon o rybudd bod ei hoedran i dderbyn pensiwn gwladol wedi newid.  Yn 2023 dyfarnodd yr Ombwdsmon mai camweinyddu oedd yr oedi yma.

“Roedd hyn yn ddechrau da ond yna daeth newid.  Cyhoeddwyd ail adroddiad yn edrych a oeddem wedi dioddef anghyfiawnder ac a ddylem dderbyn iawndal yn ystod haf llynedd.  Diolch i weithredu cyfreithiol gan ein cyd ymgyrchwyr yn Women Against State Pension Inequality Campaign a’n cefnogaeth ni, barnwyd bod y gwallau cyfreithiol yn yr adroddiad hynny.  Cytunodd yr Ombwdsmon edrych ar yr achos eto heb yr angen i ddychwelyd i’r llysoedd.  Gobeithio daw gwell canlyniad y tro yma!

“Unwaith daw’r adroddiad terfynol sy’n gyfreithiol gywir i law bydd yr argymhellion yn mynd i’r Senedd.  Mae’n arferol i’r Llywodraeth dderbyn argymhellion yr Ombwdsmon ond bydd rhaid aros i weld beth fydd yn digwydd i’n hachos ni.”

Casglwyd £81 gan y rhai oedd yn bresennol tuag at gostau cyfreithiol yr achos.


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2023-05-05 12:05:06 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.