Mae Llywodraeth y DU wedi cael ei chyhuddo o atal hawliau pleidleiswyr ar ôl i gynlluniau gael eu datgelu’n answyddogol ynghylch eu bwriad i’w hwneud hi’n ofynnol i etholwyr gyflwyno llun adnabod wrth fwrw pleidlais.
Mae Gweinidogion yn bwriadu cyflwyno gofyniad cyfreithiol i bleidleiswyr gynhyrchu adnabyddiaeth ffotograffig, er mwyn diogelu rhag twyll etholiadol. Bydd y cynigion, a gynhwysir yn y bil gonestrwydd etholiadol newydd, hefyd yn cyfyngu ar nifer y perthnasau y gellir gweithredu drostynt fel dirprwy.
Mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol wedi honni, allan o filiynau o bleidleisiau a fwriwyd yn y DU y llynedd, mai dim ond wyth honiad o dwyll cambersonadu fu - y math o dwyll y mae adnabyddiaeth llun pleidleisiwr i fod ei atal.
Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion:
"Rwy'n hynod bryderus am y cynlluniau fydd yn ei gwneud hi'n anoddach pleidleisio trwy ei gwneud yn ofynnol i bleidleiswyr ddangos llun adnabod er mwyn gallu arfer eu hawl ddemocrataidd i bleidleisio. Mae’r cynlluniau hyn yn trio mynd i’r afael â phroblem sydd ddim yn bodoli mewn gwirionedd. Yn 2017, dim ond un achos o ddynwarediad a gafwyd yn ystod yr etholiad cyffredinol.
“Rwy’n ofni y gallai cannoedd o filoedd - os nad miliynau - o unigolion gael eu difreinio i bob pwrpas pe bai cynigion y Llywodraeth yn cael eu gweithredu, a bydd yr effaith yn cael ei theimlo’n anghymesur ym mhlith yr henoed a’r mwyaf dan anfantais yn ein cymunedau sy’n fwy tebygol o beidio â chael pasbort neu drwydded gyrru gyda llun.
“O ganlyniad i hyn, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynigion hyn pan fydd y Llywodraeth yn eu dwyn ymlaen.”