Mae’r gweithlu milfeddygol yn darparu gwasanaeth hanfodol i gymunedau gwledig Cymru, sydd yn ei dro yn dibynnu ar ymdrechion gwerthfawr milfeddygon sydd wedi cael eu hyfforddi dros y dŵr. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod 100% o Filfeddygon Swyddogol lladd-dai Cymru yn dod o wledydd tu allan i’r Deyrnas Gyfunol (yr UE yn bennaf), ac mae gwasanaethau milfeddygol iechyd cyhoeddus hefyd yn elwa’n sylweddol o gyfraniad milfeddygon sydd wedi’u hyfforddi tu allan i’r Deyrnas Gyfunol, gydag oddeutu 95% o’r holl swyddi milfeddygol yn y sector hylendid cig yn cael eu dal gan raddedigion o dramor.
Ar 18 Ebrill, cynhaliodd Ben Lake AS ddadl yn Neuadd San Steffan ar ddyfodol y sector milfeddygol yng Nghymru lle y pwysleisiodd pa mor bwysig oedd sicrhau bod y proffesiwn yn parhau i recriwtio a gwneud y mwyaf o’r milfeddygon hynny sydd wedi’u hyfforddi dramor. Nododd y byddai colli hyd yn oed canran fach o’r gweithlu milfeddygol ar ôl gadael yr UE yn arwain at ganlyniadau difrifol gyda’r posibilrwydd o gynyddu’r risg o dwyll bwyd yn y gadwyn gyflenwi.
Gyda 44% o filfeddygon yr UE sy’n gweithio yn y Deyrnas Gyfunol yn dweud eu bod yn “bryderus am eu dyfodol”, ac un ymhob pump yn edrych am waith tu hwnt i’r Deyrnas Gyfunol ar hyn o bryd, mae Sefydliad Milfeddygaeth Prydain yn pwyso ar Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i roi milfeddygaeth ar y rhestr galwedigaethau prin, er mwyn diogelu unrhyw ddiffygion posib ddaw i’r gweithlu yn sgil gadael yr UE.
Dywedodd Ben Lake:
“Mae angen i ni sylweddoli pwysigrwydd milfeddygon lleol yn ein cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel Ceredigion ac mae’n bwysig fod y gweithlu milfeddygol yng Nghymru yn wydn ar ôl-Brexit.
“Mae gweithlu milfeddygol cryf yn gwbl hanfodol os ydyn ni am gynnal safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel, safonau bwyd uchel a safonau iechyd cyhoeddus cyffredinol uchel yng Nghymru. Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol sicrhau eu bod yn paratoi’n drylwyr fel bod y sector milfeddygol yn gadarn ac mewn sefyllfa i weithredu’n effeithiol wedi i ni adael yr UE.
“Mae hefyd angen y capasiti arnom i addysgu a hyfforddi ein milfeddygon ein hunain yng Nghymru. Gan taw magu anifeiliaid y gwna canran uchel o ffermwyr yn y wlad, mae’n anodd credu nad oes gennym ni ganolfan hyfforddi filfeddygol.
“Rwy’n falch bod Prifysgol Aberystwyth, mewn cydweithrediad â’r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol yn Llundain, yn trafod y posibilrwydd o gyflwyno hyfforddiant meddyginiaeth milfeddygol yng Ngheredigion. Rwy’n gobeithio y bydd y diwydiant amaeth a Llywodraeth Cymru yn dangos cefnogaeth i’r cynllun uchelgeisiol hwn. Byddai sefydlu canolfan hyfforddi o’r fath yn sicrhau cyflenwad cyson o filfeddygon o’r safon uchaf yng Nghymru a byddai canolfan o’r fath hefyd yn annog rhagor o unigolion o ardaloedd megis Ceredigion i ddilyn gyrfa yn y maes.”