Mae AS Plaid Cymru Ceredigion, Ben Lake wedi galw ar y Canghellor i ymestyn rhyddhad Treth ar Werth (TAW) ar gyfer busnesau lletygarwch am flwyddyn arall i helpu’r economi ail gydio ar ôl Covid.
Ym mis Gorffennaf, torrodd llywodraeth y DU TAW ar fwyd, llety ac atyniadau i 5%, ac fe gafodd ei ymestyn ymhellach tan ddiwedd mis Mawrth.
Dywed yr Aelod Seneddol y byddai cadw TAW ar 5% yn rhoi sicrwydd i fusnesau sy’n ei chael yn anodd, ac yn helpu’r diwydiant lletygarwch i ddychwelyd i broffidioldeb, gan ddiogelu swyddi ar draws Ceredigion.
Mae deiseb i Senedd San Steffan yn galw ar y llywodraeth i gynnal rhyddhad TAW eisoes wedi derbyn dros ddeng mil o lofnodion.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Yn fy nghyfarfodydd diweddar â busnesau lletygarwch ledled Ceredigion, mae'r perchnogion wedi dweud wrthyf eu bod yn poeni’n fawr am eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Maent yn erfyn ar Lywodraeth y DU i weithredu ar frys er mwyn cynnig sicrwydd tymor hir i helpu'r sector lletygarwch dros y misoedd nesaf. Un o’r mesurau fyddai’n rhoi rhywfaint o sicrwydd iddynt yw ymestyn rhyddhad TAW i 2022.
“Mewn dadl ddiweddar yn San Steffan, yn ogystal ag ymestyn rhyddhad TAW i’r sector lletygarwch, cefnogais alwadau i’r Trysorlys ddarparu arian ychwanegol fel y gellir cefnogi busnesau i dyfu a ffynnu unwaith y bydd cyfyngiadau wedi’u lleddfu, ac i oedi cyfraniadau yswiriant cenedlaethol y cyflogwr ar gyfer gweithwyr ffyrlo fel modd o leddfu'r baich ar fusnesau y mae’n ofynnol arnynt i fod ar gau. Anogais y Trysorlys hefyd i ystyried ymestyn y gwyliau ardrethi busnes ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
“Nid yn unig y byddai’r mesurau cymorth hyn yn rhoi cyfle i fusnesau oroesi drwy’r argyfwng hwn, byddai hefyd yn osgoi’r sefyllfa trychinebus lle gallai busnesau sydd wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan y Llywodraeth yn y gorffennol gael eu gorfodi i gau am byth. Byddai hynny'n ergyd sylweddol i’r economi leol ac yn golygu bod ymdrechion Llywodraeth y DU i gefnogi'r sector wedi mynd yn ofer."
Os hoffech chi lofnodi'r ddeiseb gallwch wneud hynny yma: https://petition.parliament.uk/petitions/572283
Gwyliwch cyfraniad Ben Lake AS i'r ddadl diweddar yn Neuadd San Steffan o blaid y sector lletygarwch yma:
https://youtu.be/SoMV2W-l7Wg
Dangos 1 ymateb