Oedi pellach i Gredyd Cynhwysol yng Nghymru

Ben Lake AS yn nodi pryder am oblygiadau cyflwyniad fis Rhagfyr

Mae Ben Lake, Aelod Seneddol dros Geredigion wedi nodi ei bryder yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan yr Adran Waith a Phensiynau y bydd cyflwyniad llawn o fudd-daliad dadleuol y Llywodraeth, Credyd Cynhwysol, yn cael ei oedi tan fis Rhagfyr 2018.

Roedd disgwyl i’r taliad, a fydd yn adleoli budd-daliadau blaenorol megis PIP, ESA a Chredydau Treth trwy Waith, gael ei gyflwyno i Geredigion ym mis Medi 2018, fodd bynnag yn ôl y ddogfennaeth ddiweddaraf mae’r dyddiad wedi newid i Ragfyr 2018.

universal-credit.png

Nododd Ben Lake AS ei bryder bydd cyflwyniad Credyd Cynhwysol ym mis Rhagfyr 2018 yn debygol o daro teuluoedd ac unigolion bregus ar un o amseroedd anoddaf y flwyddyn.

Dywedodd Ben Lake AS:

“Rwyf yn croesawu’r newyddion bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu oedi'r cyflwyniad o Gredyd Cynhwysol i Geredigion, gyda’r gobaith bydd hyn yn rhoi cyfle i’r Llywodraeth gywiro nifer o broblemau amlwg sydd yn perthyn i’r taliad. Mae yno amryw o broblemau wedi bod gyda chyflwyniad y budd-daliad i ardaloedd eraill o Brydain, serch hynny mae’r cyflwyniad arfaethedig o fis Rhagfyr yn fy mhoeni yn arw.

“Gyda dathliadau’r Nadolig, tywydd gaeafol a chyfnodau o wyliau, gall Rhagfyr fod yn fis caled yn ariannol i deuluoedd ac unigolion. Mae gennyf felly bryderon sylweddol bydd cyflwyniad o Gredyd Cynhwysol yng Ngheredigion nid yn unig yn rhoi hawlwyr dan straen cyllidol ychwanegol, ond hefyd yn cyd-daro ar gyfnod pan gall amryw o wasanaethau cefnogaeth berthnasol fod ar eu toriad tymhorol”.

“Rwyf bellach wedi ysgrifennu i’r Adran Waith a Phensiynau yn nodi fy mhrydreron.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.