Ben Lake yn mynychu sesiwn ymwybyddiaeth awtistiaeth yn San Steffan

Autism_Awareness_Ben_Lake_MP.jpg

Mae Ben Lake, AS Ceredigion, wedi mynychu y sesiwn gyntaf un o ‘Ddeall Awtistiaeth’ gan y Gymdeithas Awtistig Genedlaethol. Roedd yn un o 82 ASau a fynychodd un o dair sesiwn, gan dderbyn mwy o wybodaeth am gyflwr awtistiaeth, cyfarwyddyd ar sut i greu cymorthfeydd awtistig gyfeillgar, ac awgrymiadau ar sut i gefnogi etholwyr awtistig.

Mae yna o gwmpas 700,000 o blant ac oedolion awtistig yn y DU, cyfran sylweddol o bob etholaeth AS. Cred y Gymdeithas Awstistig Genedlaethol bod codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth yn gam pwysig tuag at wella eu gallu i gefnogi a phleidio achosion o bwys i bobl awtistig yn eu hetholaethau ac yn y Llywodraeth hefyd. Roedd yr elusen yn hynod o falch bod cynifer o ASau wedi mynychu a byddant yn cydweithio â hwy er mwyn sicrhau bod cefnogaeth i bobl awtistig yn gwella ar lefel lleol a chenedlaethol.

Cynhaliwyd y sesiynau gan bedwar aelod o staff y Gymdeithas Awtistig Genedlaethol, dau ohonynt eu hunain yn awtistig. Nododd y Gwir Anrhydeddus Fonesig Cheryl Gillian AC, Cadeirydd y Grŵp Seneddol Amlbleidiol ar Awtistiaeth, a lywyddodd y sesiwn, pa mor dyngedfennol yw hi i seneddwyr i fod yn fwy sensitif ac yn fwy ymwybodol o’r sialensau a all pobl awtistig eu hwynebu. Cytunodd llawer o’r ASau a oedd yno y gallai caredigrwydd, amynedd a sensitifrwydd wneud gwahaniaeth mawr i’r modd maent yn cefnogi eu hetholwyr awtistig.

Mae Awtistiaeth yn anabledd oes sy’n effeithio ar y modd y mae rhywun yn cyfathrebu a gweld, clywed a theimlo y byd o’u cwmpas. Mae’n gyflwr sbectrwm. Golyga hyn bod gan bobl awtistig eu cryfderau eu hunain ynghyd â gofynion amrywiol a chymhleth, yn amrywio o ofal 24 awr i’r angen syml am ddealltwriaeth gliriach ac ychydig mwy o amser i wneud pethau yn y gwaith ac yn yr ysgol.

Dywedodd Ben Lake AS: “Roeddwn yn falch o gael mynychu y sesiwn ‘Deall Awtistiaeth’ ac yn ddiolchgar i’r Gymdeithas Awtistig Genedlaethol am ei threfnu. Credaf fod gan pob person y potensial o’u mewn i gyfrannu i gymdeithas a’i bod yn gyfrifoldeb arnom i helpu eraill i wneud hynny. Felly, mae angen i ni wella y ddealltwriaeth gyhoeddus ar awtistiaeth er mwyn i bobl awtistig gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

“Yn rhy aml, mae diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yn medru cael effaith negyddol ar fywydau pob dydd pobl awtistig a’u teuluoedd a all arwain at ynysiad cymdeithasol. Mae angen i ni gydnabod y sialensau a all pobl awtistig eu hwynebu, er mwyn i ni ddathlu eu talentau a’u sgiliau unigryw.”

Dywedodd Anna Bailey-Bearfield, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus y Gymdeithas Awtistig Genedlaethol: “Roeddem mor falch o weld Ben Lake AS yn mynychu sesiwn gyntaf un yr elusen ar Ddeall Awtistiaeth ar gyfer ASau.

“Mae’n gwbl galonogol i weld bod ASau fel Ben Lake eisiau dysgu mwy am sut i gefnogi eu hetholwyr awtistig, gan eu bod yn chwarae rhan bwysig tuag at helpu i greu byd sy’n gweithio i bobl awtistig.

“Hyderwn yn awr y bydd ASau yn gweithredu ar yr hyn a ddysgwyd ganddynt fel bod yna well ddealltwriaeth ar anghenion pobl awtistig."

Mynychodd 82 AS ein sesiwn gyntaf. Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf gobeithiwn gydweithio gyda llawer mwy o ASau er mwyn troi gwell dealltwriaeth yn weithred.

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.