Elin Jones MS a Ben Lake AS yn galw am gyllid i flaenoriaethu ffyrdd heb eu mabwysiadu yng Ngheredigion

Maes_y_Felin_Site_Meeting_October_2021.jpeg

Mae ffyrdd heb eu mabwysiadu yn briffyrdd sydd heb eu cymryd i ofal y cyngor lleol, er mwyn iddynt gael eu cynnal ochr yn ochr â gweddill y rhwydwaith priffyrdd. Mewn eiddo preifat, cyfrifoldeb y datblygwr tai neu drigolion lleol ydyn nhw yn aml.

Mae oddeutu 25,000 cilomedr o ffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghymru, ac amcangyfrifwyd y byddai’n costio £1.56 biliwn (yn seiliedig ar bris o £ 600-y- metr) i ddod â'r holl ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yng Nghymru sy'n gwasanaethu pum eiddo neu fwy i'r safon ofynnol.

Yn 2019 comisiynodd Llywodraeth Cymru Dasglu arbenigol i nodi hyd a lled y gwaith yn ymwneud â ffyrdd heb eu mabwysiadu yng Nghymru ac i weld beth ellid ei wneud i wella'r sefyllfa. Ymhlith argymhellion y Tasglu oedd yr angen i lansio rhaglen ariannu beilot i fynd i’r afael â blaenoriaethau ffyrdd lleol heb eu mabwysiadu - peilot sydd ar y gweill ledled Cymru ar hyn o bryd.

Mae preswylwyr ar draws Ceredigion wedi cysylltu ag Elin Jones AS a Ben Lake AS â phryderon cynyddol am gyflwr eu ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu, a bu cyfarfod yn ddiweddar rhwng y cynrychiolwyr etholedig â thrigolion Maes y Felin, Penrhyn-coch - un o lawer o ystadau tai yng Ngheredigion - i wrando ar eu pryderon.

Dywedodd Ben Lake AS:

“Mae angen i Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol ddelio gyda ffyrdd heb eu mabwysiadu, ac rwy’n croesawu argymhellion y Tasglu Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu.

“Gall y ffyrdd hyn fod yn beryglus i drigolion oedrannus, anabl ac iau. Yn aml does dim goleuadau stryd na draeniad, ac mae’r arwyneb yn wael. Gallant hefyd achosi problemau i'n gwasanaethau brys, gan fod llwybr i ambiwlansys a pheiriannau tân ar adegau o argyfwng yn anodd.

Dywedodd Elin Jones AS:

“Rwy’n gobeithio y bydd canfyddiadau rhaglen ariannu beilot Llywodraeth Cymru yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir er mwyn cyflwyno cronfa Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu cenedlaethol ledled Cymru. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â'r Awdurdod Lleol i sicrhau bod Maes y Felin ac ystadau tai eraill ledled Ceredigion yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer unrhyw gyllid o'r fath. "


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2021-11-08 12:25:51 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.