Anghydraddoldeb rhanbarthol y DU y gwaethaf yn Ewrop

charlie-ellis-760263-unsplash.jpg

Mae ymchwil gan Gynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol wedi darganfod y byddai caledi anghydraddoldeb rhanbarthol o fewn y DU yn gymwys i dros £11 biliwn o gyllid datblygu rhanbarthol yr UE yn ystod cyfnod 2021-2027.

Mae’r cylch cyllido presennol yn rhedeg o 2014-2020, pryd y disgwylir y bydd Cymru wedi derbyn £2.06 biliwn o gymorth oddi wrth yr UE – neu tua 20% o’r cyfanswm a glustnodwyd i’r DU.

Mae Llywodraeth Prydain wedi awgrymu disodli buddsoddiad yr UE gyda Chronfa Ffyniant Gyffredin newydd ar ôl Brexit.  Fodd bynnag, er gwaetha addewid i ymgynghori ar y gronfa cyn diwedd 2018, ni chyhoeddwyd unrhyw fanylion o bwys hyd yn hyn.  Felly deil yn aneglur pa faint o gyllid fydd ar gael, sut y caiff ei rannu ar draws y DU, a phwy fydd yn gyfrifol am y dosraniadau.

Mae ffigurau diweddar yn awgrymu bod Llundain fewnol yn parhau i fod y rhanbarth gyfoethocaf o fewn y DU gyda GDP yn gyfystyr â 614% o gyfartaledd yr UE, o’i gymharu ag ymron 68% ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.  Yn seiliedig ar ymchwil Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol byddai gan Gymru hawl i tua £2.5 biliwn yn ystod y cyfnod nesa – cyfran uwch na chyfanswm y DU a gai ei ddosrannu o dan fformiwla Barnett.

Yn ystod cwestiynau i Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y Tŷ Cyffredin, pwysleisiodd Ben Lake y pwysigrwydd o sicrhau bod Cymru yn parhau i dderbyn lefel cyfwerth o gyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Yn dilyn y ddadl dywedodd Ben Lake:

“Wrth i ni gydnabod bod rhaglenni cyllid rhabarthol a strwythurol wedi bod ar gael i ni, ac yn dda, mae’n gywilydd fodd bynnag  bod gorllewin Cymru wedi parhau i fod yn gymwys iddynt.

“Yn hanesyddol mae datblygiad economaidd y DU wedi canolbwyntio ar roi y gyfran fwyaf o fuddsoddiad cyhoeddus ar ganolfannau trefol lle mae’r boblogaeth yn fwy.  O ganlyniad, gyda thristwch nid yw’n annisgwyl bod anghydraddoldeb rhanbarthol mor fawr wedi datblygu.  Yn rhy aml, nid yw strategaeth economaidd mewn perthynas ag ardaloedd gwledig yn cyfrannu dim ond ychydig mwy na gwella’r cysylltiadau sy’n bodoli rhwng y wlad a’r dinasoedd, gyda’r gobaith o gyflymu llif araf o gyfoeth o’r ‘peiriant economaidd’ a’r pwerdai’ i’r perifferi wledig.  Y canlyniad yw bod cynhyrchiant  ardaloedd gwledig yn barhaus yn is na chyfartaledd y DU.

“Bydd cronfa ffyniant newydd yn cadarnhau dyfodol cymunedau Ceredigion am ddegawdau i ddod, ac felly mae’n holl bwysig bod Cymru yn parhau i dderbyn lefel gyfatebol o gyllid os oes gennym unrhyw obaith i bontio’r gwahaniaeth.  Fe wnaf fy ngorau glas i ddarbwyllo Llywodraeth Prydain o’u dyletswydd i wneud hynny, a’u hatgoffa o’r addewidion a wnaed i’r cyfeiriad hynny.  Ni wnaiff cynnal lefelau presennol o fuddsoddiad rhanbarthol a strwythurol ar ben ei hun ddatrys y diffygion dwfn, strwythurol sydd yn ein heconomi Gymreig, ond ni allwn fforddio i fynd ymlaen  mewn sefyllfa hyd yn oed yn wannach."

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.