Gaza: Safbwynt Llywodraeth y DU ar werthiant arfau yn ‘holl ragrithiol’ – Plaid Cymru

Plaid Cymru yn ailadrodd yr alwad am waharddiad dros dro ar allforio arfau i Israel

Disgrifiodd Liz Saville Roberts AS, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan heddiw (dydd Mawrth 27 Chwefror) bod safbwynt Llywodraeth y DU ar werthiant arfau i Israel yn “holl ragrithiol”.

Dywedodd David Cameron, yr Ysgrifennydd Tramor, ar 20 o Chwefror “rydym yn galw ar yr ymladd i ddod i ben nawr.”

Er hynny, mae’r DU yn dal i alluogi trwyddedu arfau i Israel. Mae cytundeb y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi’i ddyddio ar 17 Ionawr yn dangos y tro cyntaf i Brydain daro bargen gydag is-gwmni Elbit UK ers i Israel ddechrau ymosodiadau dialgar ar Gaza yn dilyn ymosodiadau Hamas ar 7 o Hydref.

Yn ôl pob sôn, mae Elbit yn cyflenwi hyd at 85% o drôns ac offer milwrol ar y tir i Israel, gan ddisgrifio ei 450 o dronau Hermes - sydd wedi cael eu defnyddio gan Israel ar dargedau yn Hamas yn Gaza yn ystod y misoedd diwethaf - fel "asgwrn cefn Lluoedd Amddiffyn Israel".

Dywedodd Ms Saville Roberts ei bod yn “holl ragrithiol” i barhau i drwyddedu allforio arfau wrth alw am ddiwedd i’r trais.

Dywedodd Andrew Mitchell, y Gweinidog Datblygu ac Affrica mewn ymateb i lefarydd yr SNP Brendan O’Hara bod gan “Brydain y rheoliadau mwyaf gwydn yn y byd ar reoli arfau a’r drefn allforio arfau.”

 

Wrth siarad yn y Tŷ Cyffredin, dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS:

“Mae’r Ysgrifennydd Tramor wedi galw “am atal yr ymladd ar unwaith.”

“Ond arwyddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn gytundeb gyda’r cynhyrchwr arfau Elbit ar y 17 o Ionawr. Yn ôl pob sôn mae’r cwmni yma yn cyflenwi hyd at 85% o drôns ac offer milwrol ar y tir i Israel.

"Galwodd y Gweinidog am gyngor wrth edrych ar sut mae arfau yn cael eu hallforio? Oherwydd hyn onid yw’n cytuno bod dulliau’r DU yn ymddangos yn hollol ragrithiol? Pa gyngor sydd ei angen arno i atal gwerthu arfau?”

Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog bod y Llywodraeth eisoes wedi esbonio’i safbwynt ar werthu arfau.


Dangos 1 ymateb

  • Elain Roberts
    published this page in Newyddion 2024-03-01 10:45:11 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.