Ben Lake AS ac Elin Jones AC yn cefnogi streic UCU

Ar 27 Chwefror bydd aelodau staff Prifysgol Aberystwyth yn gorymdeithio o rhiw Penglais i Ganolfan y Morlan ac yna'n cynnal rali  yn rhan o’r streic mae UCU yn ei gynnal i amddiffyn pensiynau gweithwyr. Er nad yw Ben Lake AS nac Elin Jones AC yn medru mynychu’r rali, mae'r ddau wedi datgan cefnogaeth lwyr i holl staff y brifysgol yn eu hymgyrch i amddiffyn eu pensiynau a’u hamodau gwaith.

23881981208_e68a5eb52d_k.jpg

Mewn datganiad am y streic bensiynau dywedodd Ben Lake AS:

“Yn sylfaenol, nid anghydfod am bensiynau yn unig yw hwn – ond yn hytrach mae'n un elfen o'r datblygiad ehangach tuag at farchnadeiddio’r sector Addysg Uwch.

"Mae holl staff y brifysgol yn haeddu pensiynau ac amodau gwaith da, ac mae unrhyw ymosodiad ar yr amodau hyn hefyd yn ymosodiad ar addysg ein myfyrwyr. Mae israddio’r cynllun pensiwn yn tanseilio cynaladwyedd ac ansawdd Addysg Uwch yng Nghymru, ac hefyd yn ein rhwystro ni rhag medru recriwtio a chadw staff o’r safon uchaf yn y dyfodol.

"Yr hyn sydd ei angen nawr yw i Brifysgolion y DU (UUK) ddychwelyd i'r bwrdd trafod. Mae angen iddynt gyfiawnhau'r honiadau bod y diffyg ariannol yn y cynllun presennol yn anfforddadwy ac yn amhosib i’w reoli - a hynny yn wyneb y ffaith bod yna gyfoeth o dystiolaeth i'r gwrthwyneb. Mae gwir angen iddyn nhw ymgysylltu’n adeiladol gyda’r UCU trwy ymrwymo i drafodaethau ystyrlon. Yn ychwanegol at hynny, rydw i a nifer fawr o ASau eraill wedi ysgrifennu at Weinidog y Prifysgolion yn galw ar Lywodraeth y DU i adolygu'r sefyllfa bresennol, ac ymyrryd er mwyn sicrhau bod yr anghydfod hwn yn cael ei ddatrys ar fyrder." 

Dywedodd Elin Jones AC:

"Rwy’n falch iawn i gynrychioli Ceredigion, ac o fod yn ffrind i staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Heddiw, rydych yn gyrru neges glir i’r sector, ac i Lywodraethau Cymru a San Steffan, bod angen gwrando ar lais y staff.

"Mae ein Prifysgol ni wedi arloesi, ac yn dal i arwain y ffordd o fewn Prifysgolion Cymru. Dylid dathlu gwaith y staff yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, nid cosbi.

"Gan hynny, nid yw’n deg i ddarlithwyr gael y pensiynau gwaethaf yn y sector addysg ac i’w pensiynau terfynol dibynnu ar berfformiad y farchnad stoc yn hytrach nag ar gyfraniadau. Nid yw’n syndod bod argyfwng o ran recriwtio a chadw staff wrth iddynt chwilio am well diogelwch ariannol yn rhywle arall.

"Ni allwn ganiatáu gwleidyddiaeth y cyfnod hwn i erydu’r hawliau a brwydrwyd drosti gan eich rhagflaenwyr. Mae eich hawliau pensiwn chi yn cael eu hamddiffyn heddiw, ac rwy’n falch iawn i’ch cefnogi chi."

Yr wythnos hon galwodd grŵp Plaid Cymru ar gyfer datganiad barn yn y Cynulliad cenedlaethol:

  • Yn cydnabod pwysigrwydd cymdeithasol ac economaidd denu a chadw staff academaidd talentog ym mhrifysgolion Cymru.
  • Yn credu y dylai holl staff prifysgolion gael mynediad i bensiwn diogel a gweddus.
  • Yn nodi â phryder y bydd cynnig Universities UK i gau cyfran budd diffiniedig Cynllun Pensiwn y Prifysgolion i holl wasanaethau yn y dyfodol yn lleihau diogelwch pensiwn ar gyfer staff academaidd mewn llawer o brifysgolion, gan wneud gyrfaoedd yn y sefydliadau hynny'n llai deniadol. 
  • Yn galw ar Lywodraeth y DU i adolygu'r sefyllfa ac annog Universities UK i weithio gyda'r Undeb Prifysgolion a Cholegau i ddod o hyd i ateb gwell.

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.