Mae Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion, wedi codi pryderon ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig i wasanaethau y tu allan i oriau meddygon teulu yn ne Ceredigion.
O'r 9fed o Fawrth ymlaen mae’r Bwrdd Iechyd yn gofyn i gleifion sy’n byw yn Llandysul a’r ardal gyfagos i deithio i'r clinig y tu allan i oriau yn Ysbyty Gyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin os oes angen meddyg arnynt.
Dywedodd Elin Jones AC:
“Mae’n wir i ddweud bob pobl yn bryderus am y newidiadau hyn. Mae’n gwbl ddealladwy bod disgwyl i chi deithio pellteroedd ynghanol nos ar gyfer galwadau y tu allan i oriau yn mynd i greu anghyfleustra mawr i gleifion a phobl bregus yn ne’r sir.
“Rwy wedi codi’r pryderon hyn gyda’r bwrdd iechyd ac wedi gofyn iddynt esbonio pam eu bod hi'n fwyfwy anodd i lenwi rota meddygon teulu.
“Mae pwysau gofynion y gaeaf yn amlwg, fodd bynnag mae’n rhaid i ni sicrhau mai mesurau dros dro yn unig yw’r rhain.”