Elin yn croesawu tro-pedol ar addysg uwch

Mae Elin Jones, AC lleol Ceredigion, wedi croesawu’r newyddion fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi penderfynu bod y toriadau arfaethedig werth £41 miliwn i ariannu addysg uwch wedi cael eu gostwng i £10 miliwn. Daeth y newyddion wedi’r ddadl dros y gyllideb yn y Cynulliad Cenedlaethol ar  9fed o Chwefror, ar ôl i Elin Jones gynnig gwelliannau gan alw ar y Llywodraeth i ailystyried y toriadau enfawr i brifysgolion.

Campws Prifysgol Aberystwyth

Meddai Elin Jones, AC Plaid Cymru dros Geredigion,

"Rwy’n falch bod y Llywodraeth Lafur wedi ildio i’r pwysau a roddwyd arnynt gan Blaid Cymru, a’u bod wedi gwrthdroi rhai o’r toriadau hyn. Mae’n rhyfeddol bod y Llywodraeth Cymru wedi bwriadu gwneud y fath doriadau i gyllideb Addysg Uwch heb hyd yn oed gynnal asesiad effaith neu drafod mewn cyfarfod cabinet. Mae’r gwrthdroad yn gydnabyddiad eu bod wedi gwneud camgymeriad.

Byddai’r gostyngiad yn y cyllid i CCAUC, sef y corff sy’n ariannu addysg uwch yng Nghymru, wedi arwain at doriadau difrifol mewn cefnogaeth i ymchwil academaidd, astudio rhan-amser, a darpariaeth cyfrwng-Cymraeg. Yn sicr, byddai wedi cael effaith fawr yng Ngheredigion – etholaeth sydd gyda dau gampws prifysgol.

Taflodd y Gweinidog Addysg ein prifysgolion i mewn i banig mawr. Mae ei wrthodiad i gydnabod yr argyfwng y mae wedi ei achosi, yn dangos camddealltwriaeth dwfn o’r effaith y byddai toriadau o’r fath yn ei chael ar ein prifysgolion. Rwy’n falch bod y sector Addysg Uwch wedi cael rhywfaint o sicrwydd na fydd y toriadau mor ddinistriol ag yr oeddent wedi meddwl. Wedi dweud hyn, mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod angen mynd i’r afael gyda thanariannu tymor hir y sector.’’

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.