Annwyl drigolyn Ceredigion,
Ysgrifennaf atoch chi, drigolion a threthdalwyr Ceredigion, yn uniongyrchol i esbonio y sefyllfa ariannol anghredadwy o anodd mae’r Cyngor Sir ynddi ar hyn o bryd. Dros yr wythnosau nesaf, bydd pob cynghorydd sir yn wynebu penderfyniadau ar osod cyllideb y flwyddyn nesaf, ac roeddwn am i chi fod yn ymwybodol o’r pwysau ariannol sydd o’n blaenau. Dwi wedi bod yn gynghorydd sir am dros 10 mlynedd, ac yn Arweinydd y Cyngor am lai na 2 mlynedd. Nid wyf erioed wedi gweld sefyllfa ariannol mor heriol.
Bob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru yn gosod cyllid ar gyfer pob awdurdod lleol. Yn ein dyraniad ar gyfer 2024/25, dim ond codiad o 2.6% dderbyniodd Cyngor Ceredigion, o’i gymharu â dros 4% roddwyd i Gasnewydd a Chaerdydd. Mae’r dyraniadau yn seiliedig ar boblogaeth y sir, ac rydym yn cael ein cosbi gan fod gennym niferoedd llai o boblogaeth.
Rhaid cymharu codiad o 2.6% yn erbyn chwyddiant penodol Ceredigion sydd ar hyn o bryd yn 10.1%. Mae gennym eisoes gyllidebau gofal cymdeithasol heriol, poblogaeth hŷn sy’n cynyddu yn barhaol, a chodiad yn niferoedd y bobl ifanc sydd ag anghenion gofal dwys sydd angen gofal tu allan i’r sir, ac wrth gwrs hefyd cost ein pendefyniad i berchnogi Hafan y Waun. Mae prynu Cartref Gofal Hafan y Waun wedi ychwanegu dros £1milliwn i’n gwariant, ond mae’n benderfyniad sy’n diogelu prif gartref gofal dementia Ceredigion, a fydd dwi’n siwr o fudd mawr i drigolion y sir a’u teuluoedd.
Mae’n ofynnol i ni yn ôl y gyfraith i fantoli ein cyfrifon, ac os na newn ni hynny bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd drosodd ein gwasanaethau. Felly eleni, i fantoli ein cyfrifon mae’n bosib bydd cynnydd treth cyngor o 13.9% yn anghenrheidiol. Os bydden ond yn codi’r treth cyngor i 5% er enghraifft, byddai gyda ni ddiffygion o £4.1miliwn, hyd yn oed gyda toriadau i amrywiol gyllidebau.
Nid oes un cynghorydd byth eisiau codi’r Treth Cyngor, a dwi, fel fy nghyd-gynghorwyr, yn bendant ddim eisiau gweld cynnydd o fath ar drigolion Ceredigion sydd eisoes yn teimlo’r wasgfa ariannol. Bydd codiad treth Cyngor o 13.9% yn gost o £12 y mis i dai Band A, £18 y mis i dai Band D, a £22 y mis i dai Band E. Mae tua 5,300 o gartrefi Ceredigion eisoes yn defnyddio Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor y sir, a dwi am weld os gallwn gefnogi mwy ohonoch drwy’r cynllun yma. Cysylltwch â Chyngor Sir Cereidigon os ydych chi’n meddwl gallwch fod yn gymwys.
Mae yn bosib byddwn yn elwa o benderfyniad San Steffan yr wythnos diwethaf i ddarparu mwy o gyllid i gynghorau sir, os bydd Llywodraeth Cymru yn pasio’r cyllid yna ymlaen i ni, ond bydd hyn yn swm gymharol fach. Felly mae yn bosib bydd y codiad treth beth yn llai na 13.9%. Byddaf am wneud y ffigwr terfynol mor fach â phosib. Hyd yn oed gyda’r lefel yma o godiad treth cyngor, bydd angen i ni wneud toriadau i’n gwariant a’n gwasanaethau er mwyn mantoli’r cyfrifon. Mi fydd y flwyddyn sydd i ddod yn galed iawn.
Dwi’n gwybod fod pawb yn ein gweld fel Cyngor sy’n lleihau gwasanaethau ac yn cynyddu trethi. Yn y ddegawd diwethaf a mwy, bu rhaid lleihau ein staff a’n gwasanaethau oherwydd fod y cyllid sy’n cael ei roi i ni wedi ei leihau yn sylweddol. Deg mlynedd yn ôl, roedd 80% o’n cyllid yn dod o lywodraeth ganolog, a 20% drwy treth y cyngor. Nawr mae 68% yn dod drwy’r llywodraeth ganolog a 32% drwy treth y cyngor. Bob tro mae Jeremy Hunt yn San Steffan, neu Rebecca Evans ym Mae Caerdydd yn sefyll a dweud nad ydynt yn codi y lefelau o dreth cenedlaethol, maent yn cyfeirio at dreth incwm. Y cwbl mae’r strategaeth yma’n gwneud yw symud baich treth i lefel lleol, sy’n gwbl anheg.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i dderbyn adroddiadau gwych am y gwasanaethau rydym yn eu darparu – yr ysgolion a’r cartrefi gofal rydym yn gyfrifol amdanynt, ac ein effeithiolrwydd fel Cyngor. Mae ein staff yn gwneud gwaith gwych yn rhedeg ein canolfannau hamdden, yn casglu biniau, yn dysgu ac yn gofalu. Fel Cyngor, byddem yn hoffi gwneud gymaint yn fwy, ond am nawr yn yr amseroedd caled yma, gallwn ni ddim.
Fel trigolion yng Ngheredigion, bydd ganddoch amryw o syniadau am sut rydyn ni’n rhedeg y Cyngor a’r penderfyniadau rydych wedi ein hethol i gymryd. Byddai’n trafod hyn oll gyda’ch cynghorau cymuned yr wythnos yma, i glywed eu barn ac dwi’n siwr byddant yn awyddus i drafod blaenoriaethau lleol. Rwyf yma i wrando.
Gobeithio gallwn barhau i gyd-weithio gyda’n gilydd er lles Ceredigion. Fel cynghorwyr, dyna’r cwbl rydyn ni am wneud.
Rhannwch y llythyr yma yn helaeth os gwelwch yn dda.
Yn gywir,
Cynghorydd Bryan Davies
Arweinydd Cynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion
Dangos 1 ymateb