Mae AC Plaid Cymru dros Geredigion wedi rhybuddio bod angen i fasnachfraint rheilffyrdd Cymru barhau i weithredu gwasanaethau trawsffiniol yn y dyfodol.
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ffurf gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru a’r Gororau ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth San Steffan wedi datgan ei fod yn bwriadu adennill rheolaeth o wasanaethau trawsffiniol, gan godi’r posibilrwydd na fydd masnachfraint newydd Cymru yn gallu parhau i weithredu llwybrau llwyddiannus fel Aberystwyth i Firmingham.
Mae grwpiau o deithwyr, megis Railfuture, wedi condemnio bygythiadau Llywodraeth Prydain i atal masnachfraint Cymru rhag gweithredu llwybrau trawsffiniol, gan ddadlau y byddai hi’n anghyfleus iawn i deithwyr orfod newid trenau pan fyddent yn croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Cododd Plaid Cymru’r mater mewn dadl yn y Cynulliad yn ddiweddar.
Dywedodd Elin Jones, AC Plaid Cymru dros Geredigion;
"Mae’r bygythiad yma i gael gwared ar wasanaethau gan Fasnachfraint Cymru a’r Gororau pan gaiff ei ddatganoli o San Steffan i Lywodraeth Cymru angen eu cymryd o ddifrif. Byddai cael gwared ar wasanaethau sy’n cynhyrchu incwm yn arwain at gynnydd yn y cymhorthdal sydd ei angen, ac yn y bôn byddai yn erbyn buddiannau teithwyr rheilffyrdd Cymru.
Yn yr ymgyrch hir a llwyddiannus i gynyddu amlder y trenau ar hyd lein y Cambrian i Firmingham, profodd y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i fod yn allweddol. Os fyddai masnachfraint newydd Cymru yn methu gwasanaethu i Firmingham, ni fyddai unrhyw gymhelliant i fuddsoddi wedi bod, ac mae’n debygol na fyddai’r gwasanaeth amlach y mae’r teithwyr nawr yn ei fwyhau ddim wedi digwydd.
Nid yw Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU yn gosod unrhyw gyfyngiad o’r fath yn yr Alban. Mae Gweinidogion yr Alban yn medru comisiynu gwasanaethau sy’n mynd mewn i Loegr. Mae gan Gymru ddaearyddiaeth wahanol iawn i’r Alban, ond dylem ni hefyd gael yr un hawl. Bydd Plaid Cymru yn parhau i gadw’r pwysau ar y mater hwn gan edrych ymlaen at bwerau rheilffyrdd yn cael eu rhoi i Gymru. Ond byddwn yn sicrhau bod unrhyw gytundeb gydag anfanteision i Gymru yn cael eu datgelu a’i wrthod.’’