Siom bod Banc Lloyds i gau yn Nhregaron

Mae Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, a Chynghorydd Sir Tregaron, Catherine Hughes, wedi sôn am eu siom bod Lloyds Bank yn Nhregaron, y banc olaf yn y dref, i gau ei ddrysau am y tro olaf.

IMG_0138.JPG

Dywedodd llefarydd dros Lloyds Bank y bydd cangen Tregaron yn cau ym mis Mawrth, 2017. Mae’r banc, sydd eisoes ar agor am oriau cyfyngedig, wedi dweud y bydd cyfrifon cwsmeriaid yn cael eu trosglwyddo i Lanbedr Pont Steffan, dros 10 milltir i ffwrdd. Cadarnhawyd hefyd y bydd gwasanaeth ‘Cangen Symudol’ yn cael ei ddarparu yn Nhregaron, er nad yw manylion y gwasanaeth wedi’u cadarnhau.

Dywedodd Elin Jones AC,

“Mae’r penderfyniad yn siom mawr i Dregaron, sydd wedi gweld ei holl ganghennau o’r banciau eraill yn cau dros y blynyddoedd diwethaf.  Rwyf yn falch fod y banc wedi cydnabod bod digon o angen am fanc symudol, ond ni fydd hanner cystal â’r hyn a ddarperir gan wasanaeth cangen lawn.

“Byddaf yn ysgrifennu i’r rheolwr ardal a gwneud sylwadau ar ran Tregaron ac yn pwysleisio bod angen cyfathrebu clir gyda’u cwsmeriaid ar y mater hwn.  Golygir hyn bod yn rhaid i gwsmeriaid gael eu hysbysu’n llawn gyda’r rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniad gan y banc, a bod amserlen y banc symudol yn cael ei gynllunio gyda’r gymuned.

"Mae cyfleustra gwasanaethau i gwsmeriaid yn Nhregaron yn bryder go iawn, ac mae'n rhaid i Lloyds gwneud popeth yn ei gallu i dawelu’r ofnau hyn."

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes.

“Dyma’r trydydd banc i gau yn Nhregaron yn y blynyddoedd diwethaf, rydym hefyd wedi gweld y Swyddfa Bost yn symud lleoliad. Mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n gwneud ein safbwynt ni yn amlwg i ddarparwyr y gwasanaethau yma, a’r ffordd orau o wneud hynny yw trwy wneud defnydd llawn ohonynt.

“Rwy’n annog pawb i ddefnyddio’r swyddfa Bost yn ogystal â’r gwasanaeth symudol, er byddai llawer gwell gyda ni ein canghennau parhaol. Mae’n rhaid i ni ddangos bod dal galw yn ardal Tregaron am y gwasanaethau yma, a thrwy wneud hyn, pwysleisio’r achos i gadw’r gwasanaethau yma yn y dref.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.