AS Plaid Cymru yn arwain dadl yn y Senedd ar brynu tir amaethyddol ar gyfer gwrthbwyso carbon.
Arweiniodd Ben Lake AS, llefarydd Plaid Cymru yn San Steffan ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ddadl yn San Steffan ddoe (13 Gorffennaf) ar brynu tir amaethyddol ar gyfer coedwigaeth a gwrthbwyso carbon gan gwmnïau mawr.
Gwrthbwyso carbon yw’r syniad y gall busnesau wrthbwyso eu heffaith amgylcheddol trwy blannu coed neu gefnogi mathau eraill o adfer cynefinoedd er mwyn niwtralu’r difrod a wnânt i’r amgylchedd. Fodd bynnag, mae cynlluniau gwrthbwyso wedi cael eu beirniadu gan sefydliadau amgylcheddol fel Greenpeace am ddarparu “stori dda sy’n caniatáu i gwmnïau wyro oddi wrth gymryd camau ystyrlon ar eu hallyriadau carbon.”
Yn ddiweddar, mae ffermwyr yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a de Powys wedi nodi bod cwmnïau rhyngwladol mawr wedi prynu ffermydd cyfan i wneud iawn am eu hôl troed carbon.
Dywedodd Mr Lake y gallai datblygiadau tebyg “fod mewn peryg o danseilio cymunedau gwledig a’r iaith Gymraeg er mwyn i gorfforaethau mawr gael parhau â’u busnes yn ôl eu harfer.”
Yn ei araith, dadleuodd fod yn rhaid cynnal yr egwyddor bolisi o “y goeden iawn yn y lle iawn”, ac y dylid rheoleiddio’r farchnad gwrthbwyso carbon er mwyn sicrhau bod plannu coed yn cael ei wneud mewn modd sydd o fudd i fioamrywiaeth leol a chymunedau.
Yn dilyn y ddadl, dywedodd Ben Lake AS:
“Mae gan blannu coed rôl hanfodol i’n helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth. Fodd bynnag, rhaid inni sicrhau ei fod yn cael ei gynllunio a'i reoleiddio'n iawn er mwyn sicrhau bod y manteision yn cael eu gwireddu'n llawn, ac er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol i gymunedau gwledig.
“Roedd y ddadl hon yn gyfle i dynnu sylw at beryglon cymryd agwedd rhy or-syml tuag at wrthbwyso carbon, ac archwilio’r peryglon posibl o annog system sy’n canolbwyntio ar wrthbwyso yn hytrach na lleihau allyriadau. Ni ddylai mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd fod yn gyfle i gwmnïau mawr wyngalchu eu hallyriadau ar draul cymunedau gwledig, wrth iddynt barhau i ollwng miliynau o dunelli o CO2.
“Bydd prosiectau plannu coed yn llwyddo orau lle cânt eu darparu gan grwpiau lleol a ffermwyr sy’n gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, gan gadw golwg nid yn unig ar atafaelu carbon a hyrwyddo bioamrywiaeth, ond hefyd sicrhau bod cymunedau lleol, nid corfforaethau rhyngwladol, yn elwa o’r incwm sy’n deillio ohonynt. Mae ein hadnoddau naturiol yn asedau amhrisiadwy, ac felly ni allwn ganiatáu iddynt gael eu hecsbloetio unwaith eto gan fusnesau mawr sy'n ceisio 'gwyrddio' eu cymwysterau carbon heb y pryder lleiaf am gymunedau gwledig - na'r Gymraeg, sy'n dibynnu cymaint ar eu parhad .”
Dangos 1 ymateb