Y frwydr go iawn ar fasnach, a sut y bydd yn effeithio ar ffermwyr Cymru, eto i ddod - Ben Lake

Mart_Tregaron.jpg

Bydd yr Etholiad Cyffredinol ar 12 Rhagfyr yn canolbwyntio ar ymadawiad y DU o’r UE, ond mae’r frwydr go iawn ar fasnach a sut y bydd yn effeithio ar ffermio Cymru eto i ddod, meddai Ben Lake, ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion.
 
Fel aelod o'r UE, mae'r DU yn cadw at set o safonau rheoleiddio - cyfres o fesurau glanweithiol a ffytoiechydol - sy'n effeithio ar ffermio, cynhyrchu bwyd a phrosesu.

Mae'r aliniad rheoliadol hwn yn hwyluso masnach rhwng y gwleyddydd hynny sy'n aelodau o'r UE trwy gael gwared ar rwystrau di-dariff. Felly gallai gwyro o'r safonau hyn gyflwyno mwy o wrthdaro wrth fasnachu â phartneriaid yn yr UE, ac o gofio mai nhw sy’n derbyn dros 80% o allforion cig coch Cymru ar hyn o bryd, byddai datblygiad o'r fath yn arwain at ganlyniadau sylweddol i'n mynediad parhaus i farchnad sydd mor bwysig.

Dywedodd Ben Lake:

“Bydd y cwestiwn a fydd y DU yn parhau i fod yn gyson â’r UE o ran safonau yn dod yn bwnc trafod llosg yn ystod y misoedd nesaf, a bydd yr ateb i raddau helaeth yn dweud wrtho ni pa ddyfodol sydd yna i allforion bwyd a diod Cymru dros y degawdau nesaf.

“Unwaith bydd Llywodraeth newydd yn cael ei ffurfio yn San Steffan - beth bynnag fo’i lliw - bydd y trafodaethau'n troi'n gyflym iawn at gytundebau masnach gyda gwledydd eraill. yn ogystal â thrafod amserlenni tariff a chwotâu cyfradd tariff, bydd angen i'r Llywodraeth roi ystyriaeth i bwysigrwydd aliniad rheoliadol er mwyn lleihau gwrthdaro gyda phartneriaid masnachu.”

Mae’r posibilrwydd o daro bargen masnach brys gyda’r Unol Daleithiau yn codi cwestiynau pwysig am y safonau y byddwn yn disgwyl i’n diwydiant amaeth gydymffurfio â nhw. Gallai dod i gytundeb brys gyda’r Unol Daleithiau olygu gostwng safonau cynhyrchu’r DU fyddai’n gorfodi ein ffermwyr i gystadlu gyda nwyddau sydd wedi’u cynhyrchu i safonau is. Mae arweinwyr blaenllaw o lywodraeth a diwydiant yr Unol Daleithiau wedi cadarnhau hyn dro ar ôl thro.  Dywedodd Ysgrifennydd Masnach yr Unol Daleithiau, Wilbur Ross, wrth arweinwyr busnes yn 2017 y byddai newid rheoliadau diogelwch bwyd yn ‘elfen hanfodol o unrhyw drafodaeth fasnach’, ac y dylai’r DU gymryd camau i gael gwared ar ‘dargyfeiriadau rheoleiddio diangen’ gyda’r Unol Daleithiau.

Byddai hyn yn effeithio ar ein gallu i allforio i'r UE, ac o ganlyniad ar incwm ffermwyr Cymru. Mae Llywydd yr NFU, Minette Batters, wedi pwyso am sefydlu comisiwn masnach a safonau i sicrhau nad yw polisi masnach y DU yn y dyfodol yn tanseilio ein safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid uchel, nac yn rhoi ein ffermwyr dan anfantais gystadleuol.

Ychwanegodd Ben Lake:

“Mae cwestiynau ynghylch alinio rheoliadol a pholisi masnach ymhell o fod yn syml i’w hateb, a bydd cytuno ar y cyfaddawdau a manylion unrhyw bolisi yn eithriadol o anodd. Er hyn, rhaid i ni ymatal rhag rhuthro i benderfyniadau tymor byr a allai beri niwed tymor hir i'n sector amaethyddol. Bydd craffu tawel, ystyriol yn arwain at gynnydd go iawn ac os ydw i'n ddigon ffodus i gael fy ailethol byddaf yn dadlau bod rhaid i bolisi masnach y DU roi gwerth ar ein safonau cynhyrchu uchel cyfredol, a phan fo hi’n dod i fewnforion nad yw ein ffermwyr yn cael eu rhan dan unrhyw anfantais.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.