Ar Ddydd Iau 17eg o Hydref 2024 fe fydd isetholiad i ethol Cynghorydd Sir nesaf Ward Tirymynach. Jonathan Evershed fydd ymgeisydd Plaid Cymru.
Neges gan Jonathan:
"Rwy'n gwybod faint o fraint yw hi i gael byw yn y rhan arbennig hon o Gymru, ond rwy'n ymwybodol o'r heriau yr ydyn ni'n eu hwynebu. Rwy'n barod i roi fy sgiliau a’m hegni i weithio dros Dirymynach, a gwneud yn siŵr bod llais ein cymuned yn cael ei glywed, yn uchel ac yn glir."
Cefais fy magu ar fferm yng Nghlarach a derbyniais fy addysg ym Mhenglais.
Roeddwn yn ddigon ffodus i gael y cyfle i dreulio amser yn astudio ac yn gweithio yn Llundain ac Iwerddon. Ond daeth tynfa’r ardal hon, lle mae gwreiddiau fy nheulu’n ddwfn, a’r awydd i ailymgartrefu yma, â mi yn ôl.
Fel ymchwilydd dwi’n gweithio’n agos gydag aelodau’r Senedd fel Elin Jones a Rhun ap Iorwerth, i ddatblygu syniadau ar sut i wella bywydau pobl mewn ardaloedd fel hon.
Yn rhy aml, nid yw llywodraethau ar wahanol lefelau yn deall cymunedau fel ein un ni mewn gwirionedd.
· Rwy'n angerddol dros amddiffyn y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt.
· Mae angen darparu cyfleoedd – swyddi a thai – i gadw pobl ifanc yn yr ardal.
· Mae angen cefnogi busnesau a mentrau cymunedol yn fwy effeithiol.
Pe bawn i’n ddigon ffodus i gynrychioli fy ardal enedigol ar y Cyngor, addawaf y byddwn yn rhoi fy egni a’m syniadau i gynrychioli pawb sy’n byw yma, a gwneud yn siŵr bod ein llais yn cael ei glywed yn uchel ac yn glir.
Jonathan
07969 857 535
Facebook - @je4tirymynach
Twitter / X - @jevershed01
“Mae Jonathan yn ddyn ifanc o allu ac egni eithriadol. Daeth yn ôl i'w ardal enedigol oherwydd ei frwdfrydedd dros wneud cefn gwlad Cymru yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo. Byddai ei egni a’i syniadau newydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i Gyngor Ceredigion.” Elin Jones AS
Fy Mlaenoriaethau:
Gwasanaethau Cyhoeddus |Rwy’n credu mewn diogelu gwasanaethau cyhoeddus, y gwyddom eu bod dan fygythiad ledled y wlad. Ni all ein hardal ond ffynnu os byddwn yn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, y Gwasanaeth Iechyd, ac ysgolion fel Rhydypennau.
Hyrwyddo Ein Cymuned |Gall cynghorydd gweithgar chwarae rhan mewn meithrin ymdeimlad o gymuned. Mae gennym neuadd bentref wedi’i hadfywio, clwb pêl-droed egnïol a llawer mwy; byddwn yn gweithio i sicrhau bod gan bawb fynediad i weithgareddau cymunedol.
Diogelwch Ffyrdd | Gyda’r A487 brysur, a’r ffyrdd i Glarach yn rhedeg drwy galon yr ardal hon, rhaid inni sicrhau diogelwch priodol i gerddwyr, goleuadau priodol a chynnal a chadw ffyrdd.
Bargen Deg | Nid yw ardaloedd gwledig yn cael chwarae teg gan Lywodraeth Lafur Cymru o ran cyllid i lywodraeth leol; byddwn yn ymgyrchu ochr yn ochr ag Elin Jones AS a Ben Lake AS i unioni hyn.
“Byddai Jonathan yn llais cadarnhaol a chreadigol o blaid newid ar Gyngor Ceredigion. Mae ganddo’r gallu a’r egni i fod yn gynghorydd lleol gwych dros Bow Street, Dole, Clarach a Llangorwen.”
Ben Lake AS
Gwyliwch 'TED Talk' Jonathan am ddod adre i’r ardal hon i fyw a gweithio
Dangos 1 ymateb