Bydd cynllun tri-phwynt Plaid Cymru yn dileu 'mannau gwan' band eang erbyn 2025

Broadband_Llanrhystud_2.jpg

Mae Plaid Cymru wedi datgelu cynllun tri-phwynt i ddileu mannau gwan band eang o Gymru erbyn 2025. Bydd y blaid yn gwneud hynny trwy wrando ar bryderon y diwydiant a mynd at wraidd y problemau a wynebir gan ddarparwyr telathrebu wrth geisio gosod band eang ffibr llawn mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd.

Wrth ddatgelu’r cynllun, dywedodd AS Ceredigion Ben Lake fod y diffyg cysylltedd presennol yn “llyffetheirio’r economi wledig yng Nghymru, yn fwy na dim arall, mae’n debyg”.

Ymosododd y cwmnïau telathrebu ar gynllun bras y Prif Weinidog i gyflwyno band eang ffibr llawn pan gafodd ei lansio yn gynharach ym mis Mehefin am nad oedd yn cynnwys unrhyw fanylion ac am fethu ag ymdrin â’r rhwystrau ar y ffordd i gyflwyno band eang ffibr llawn.

Nid yn unig y methodd Llywodraeth y DG yn ymarferol ag amlinellu sut y bydd yn targedu ardaloedd anodd eu cyrraedd, ond methodd hefyd ag amlinellu i ble byddai’n cyfeirio’r arian. Dros y blynyddoedd diwethaf, gwariodd Llywodraeth y DG arian i wella seilwaith band eang yn nhair o bedair cenedl y DG, ond nid yng Nghymru. Rhoddwyd  £150 miliwn i Ogledd Iwerddon i wella cysylltedd band eang fel rhan o fargen stafell-gefn rhwng y DUP a’r Llywodraeth Geidwadol. Daeth Llywodraeth y DG o hyd i £10 miliwn ymhellach ar gyfer band eang ffibr llawn mewn chwech o ardaloedd prawf ledled Lloegr a’r Alban, ond nid y Gymru wledig.

Mae cynllun tri-phwynt Plaid Cymru yn cynnwys y mesurau isod:

  • Torri’r dreth ffibr – Mae seilwaith ffibr ar hyn o bryd yn destun ardrethi busnes, fel unrhyw eiddo masnachol arall. Cred Plaid Cymru fod hyn yn troi buddsoddwyr ymaith, ac y dylid ail-feddwl am y pwnc
  • Adeiladu tai newydd sy’n addas at y diben - Mae gormod o dai newydd yn cael eu datblygu o hyd heb ddarpariaeth ar gyfer band eang ffibr. Mae Plaid Cymru eisiau i bob tŷ newydd ymgorffori cysylltiadau rhyngrwyd all drin gigabeit.
  • Sgiliau – Bydd angen nifer fawr o beirianwyr i wneud yr holl waith mae hyn yn olygu. Byddai Plaid Cymru yn buddsoddi mewn hyfforddiant a sgiliau fel y gall y diwydiant gwrdd â’r galw.

 Yn ei sylw, meddai Ben Lake AS, llefarydd Plaid Cymru ar faterion Digidol yn San Steffan

“Mae band eang, neu ddiffyg band eang yn hytrach, yn llyffetheirio’r economi wledig yng Nghymru, yn fwy na dim arall, mae’n debyg. Mae f’etholaeth i, Ceredigion, ymysg y 10 etholaeth waethaf am gyflymder band eang.

“Tybir bod Cymru yn manteisio o allu derbyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DG, ond hyd yma, nid yw’r naill na’r llall wedi gallu amlinellu sut y cyflwynir band eang i rannau helaeth o’n gwlad. Mewn gwirionedd, mae Cymru wedi colli buddsoddiad hanfodol dro ar ôl tro.

“Pam y dylid wfftio cyfleustodau hanfodol, megis band eang digonol, fel moethau diangen i bobl sy’n byw yng nghefn gwlad? Os ydym am wneud ardaloedd gwledig Cymru yn llefydd mwy ymarferol i fusnesau ymsefydlu ac ehangu, ac os ydym am sicrhau y gall cymunedau fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a roddir gan well cysylltedd digidol, mae’n hanfodol ein bod yn buddsoddi mewn band eang.​

“Os ydym o ddifrif am wella cysylltedd fel allwedd i gefnogi a chynnal y busnesau entrepreneuraidd, arloesol a hynod bwysig, yna does dim pwynt gwneud addewidion bras a chyffredinol. Rhaid cael cyllid ac atebion ymarferol yn gefn i dargedau uchelgeisiol. Dyna pam fod cynllun tri-phwynt Plaid Cymru yn hanfodol er mwyn cael gwared â mannau gwan band eang o Gymru erbyn 2025.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.